Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithrediad cymunedol yn dod â 'Mannau i Siarad a Chanu' i Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae prosiect newydd dan arweiniad y gymuned gyda’r nod o gefnogi iechyd emosiynol cleifion hŷn a'u teuluoedd yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi cael ei ddathlu yr wythnos hon, gan drawsnewid mannau dydd ysbytai yn amgylcheddau croesawgar ar gyfer cysylltu, sgwrsio a cherddoriaeth fyw. 

Dan arweiniad Daring to Dream — yr Elusen Iechyd Emo siynol, mae'r fenter yn cynnig 'Mannau i Siarad' pwrpasol ac yn cynnal digwyddiadau prynhawn ‘Mannau i Ganu’ yn rheolaidd. Mae hynny ar gyfer cleifion oedrannus ym maes gofal acíwt, cleifion dementia, a’u teulu a’u gofalwyr. Mae'r prosiect yn adlewyrchu cydnabyddiaeth gynyddol bod iechyd a lles emosiynol yn rhan hanfodol o ofal, yn enwedig i bobl sy'n byw gyda salwch a'r rhai sy'n eu cefnogi. 

Daeth y dathliad â chleifion, gofalwyr di-dâl, gweithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid cymunedol ynghyd, ac roedd llawer ohonyn nhw wedi cefnogi'r prosiect o'r cychwyn cyntaf. Mae'r gwaith yn adeiladu ar y cydweithrediad ehangach rhwng Daring to Dream ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg i gydnabod yn well effaith emosiynol gofalu a salwch. Roedd yr elusen wedi cyflwyno prosiect 'Hear Our Voices' yn Lleswyl 2024. 

O ystafelloedd heb eu defnyddio i fannau croesawgar 

Gweledigaeth wreiddiol Daring to Dream oedd ailddatblygu dwy ystafell ddydd sydd heb eu defnyddio ar ward Gofal yr Henoed yn Ysbyty Tywysoges Cymru i fod yn Fannau i Siarad oedd yn gynnes a hygyrch. Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Lles, Sarah Murphy AS, â'r ystafelloedd dydd newydd a gwell ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r dathliadau lansio.  

Yn ogystal â gwaith adnewyddu'r ystafell ddydd, mae'r Elusen hefyd wedi sefydlu prynhawniau o gerddoriaeth fyw sy’n boblogaidd iawn, sef Mannau i Ganu. Mae hyn cleifion oedrannus mewn gofal acíwt a’u teulu, yn ogystal ag ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia yn Ward 15. Bydd y cam nesaf bellach yn gweld Mannau i Siarad newydd yn cael eu creu yn Ysbyty George Thomas yn Nhreorci, lle mae llawer o gleifion yn parhau â'u hadferiad, gyda chynlluniau i gynnal y sesiynau cerddoriaeth fyw yno hefyd. 

Mae'r mannau hyn yn darparu lleoliad tawel, i ffwrdd o erchwyn y gwely, lle gall cleifion, teuluoedd a gofalwyr di-dâl dreulio amser ystyrlon gyda'i gilydd, siarad yn agored, a theimlo'n gefnogol y tu hwnt i'w triniaeth glinigol. 

 

 

 

Pŵer cerddoriaeth  

Wrth siarad am effaith cerddoriaeth fyw mewn ysbytai, dywedodd Caroline Gardener, Uwch Nyrs Ysbyty Tywysoges Cymru:  

“Does dim modd gorddweud gwerth cerddoriaeth o fewn yr ysbyty. Mae pobl sydd yn aros yn hir yn yr ysbyty yn ymddieithrio oherwydd eu bod allan o’u trefn ddyddiol. Yna maen nhw'n cael y profiad hwn o gerddoriaeth fyw diolch i Daring to Dream a'r cerddorion talentog ac maen nhw wrth eu bodd. Rhaid i fi ddweud, does dim teimlad gwell. Mae’r cleifion a’r staff yn eu dagrau wrth weld yr effaith ar bobl”.  

Mae'r prosiect yn cydnabod bod pob claf yn cael ei gefnogi gan rywun, yn aml yn ofalwr di-dâl, a bod salwch yn effeithio ar les emosiynol gymaint ag iechyd corfforol. Drwy greu cyfleoedd i siarad, gwrando a chanu gyda'i gilydd, mae'r fenter yn helpu i leihau unigedd, lleddfu pryder a chryfhau perthnasoedd wrth ochr y gwely. 

Ymdrech Gymunedol 

Mae Daring to Dream wedi arwain cydweithrediad eang i wneud y prosiect yn bosibl, gan weithio'n agos gydag ystadau a thimau clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ochr yn ochr â chymorth cymunedol cryf. 

Ymhlith y partneriaid allweddol mae Lions Club BridgendSefydliad MoondanceClwb Camera Pen-y-bont ar Ogwra Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, y mae eu cerddorion israddedig talentog yn cyflwyno'r sesiynau cerddoriaeth fyw, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. 

“Mae hyn i gyd yn ymwneud â chymuned,” meddai Barbara Chidgey, Cadeirydd Daring to Dream. “Mae iechyd emosiynol yn ymateb dynol naturiol i salwch. Dydy hi ddim yn broblem iechyd meddwl, ond mae angen cydnabyddiaeth a chefnogaeth arni. Drwy greu Mannau i Siarad a Mannau i Ganu mewn ysbytai, rydym yn helpu pobl i fyw'n dda gyda salwch, nid dim ond ei oroesi. Bellach mae angen y gymuned yn ysbyty Tywysoges Cymru i ddangos cefnogaeth i’r prosiect er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy.” 

Mae Daring to Dream, yr Elusen Iechyd Emosiynol, yn cefnogi iechyd a lles emosiynol yr 1.2 miliwn o oedolion yng Nghymru sy'n byw gyda salwch corfforol. Yn ganolog i waith yr Elusen mae’r gred bod iechyd emosiynol cryf yn helpu pobl i reoli salwch, yn lleihau'r risg o ddatblygu anawsterau iechyd meddwl pellach, ac yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol. 

Mae'r Elusen wedi diolch i bawb sydd wedi helpu i ddod â'r prosiect yn fyw ac yn edrych ymlaen at barhau â gwaith yn Ysbyty George Thomas ac ehangu mynediad i Fannau i Siarad a Mannau i Ganu yn y dyfodol. Gallwch gefnogi prosiectau Mannau i Siarad a Mannau i Ganu yma.  

 

 

04/02/26