Mae Wythnos Anableddau Dysgu’n lansio heddiw (16 Mehefin 2025) i gydnabod a dathlu lleisiau, profiadau, a chyfraniadau pobl ag anableddau dysgu.
Mae thema eleni, "Wyt ti'n fy Ngweld i?", a arweinir gan Mencap, yn hyrwyddo pwysigrwydd gweld, clywed, a gwerthfawrogi pobl â namau dysgu ym mhob agwedd ar fywyd.
Ledled Cwm Taf, mae sefydliadau’n nodi’r wythnos gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau – o gwisiau a sgyrsiau am iechyd a lles, i weithgareddau creadigol fel cyfansoddi caneuon.
16/07/2025