Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cau ffordd rhannol ar waith yn Ysbyty Brenhinol Morganwg o 6am ddydd Gwener 12 Rhagfyr tan 6pm ddydd Sul 14 Rhagfyr i ganiatáu gosod offer trin aer newydd ar gyfer ein theatrau llawdriniaeth.

Bydd un lôn ar waith rhwng 6am a 6pm rhwng prif fynedfa'r ysbyty a mynedfa'r cleifion allanol a goleuadau traffig dros dro ar waith i gefnogi llif y traffig drwy'r safle.

Bydd prif fynedfa'r ysbyty ar gau i gerbydau, gan gynnwys y rhai sy'n parcio mewn baeau hygyrch a’r rhai sy’n codi neu'n gollwng cleifion. Bydd cleifion yn cael eu hailgyfeirio i fynedfa'r cleifion allanol i'w codi a'u gollwng yn ystod y cyfnod hwn.

Mae baeau parcio i bobl anabl ar gael yn y prif faes parcio, ac ni fydd y lleoedd yn yr Adran Famolaeth a'n Hadran Achosion Brys yn cael eu heffeithio.

I'r rhai sy'n ymweld â'n safle ar drafnidiaeth gyhoeddus, bydd safle bws dros dro ar waith ac wedi'i arwyddo'n glir.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich amynedd wrth i ni gwblhau'r gwaith hanfodol hwn.

08/12/2025