Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Iach dros y Pasg a Gŵyl y Banc

Gyda'r Pasg ar y gorwel, mae'r penwythnos gŵyl y banc hwn yn aml yn nodi dechrau dyddiau mwy disglair i ddod.

P'un a fyddwch chi'n dathlu'r Pasg gyda'r teulu, yn dianc rhag popeth, neu'n mwynhau diwrnodau allan (gobeithio gyda rhywfaint o heulwen!), rydyn ni eisiau sicrhau bod gennych chi'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i gael mynediad at wasanaethau'n briodol, os bydd angen i chi ddod atom ni y Pasg hwn.

Stociwch eich citiau cymorth cyntaf a'ch cypyrddau moddion

Gyda gwyliau hir y banc a gwyliau ysgol y Pasg, rydyn ni'n gwybod bod lympiau a chleisiau yn gyffredin. Gellir trin y rhan fwyaf o afiechydon a mân anhwylderau gartref a does dim angen sylw meddygol arnyn nhw. Gall cadw pecyn cymorth cyntaf wedi'i stocio'n dda yn y cartref, neu yn y car, eich helpu i drin mân anafiadau wrth fynd.

Mae'r un peth yn wir am fân anhwylderau fel annwyd a pheswch. Gellir trin llawer gyda moddion dros y cownter fel paracetamol, digon o hylifau a gorffwys.

Mae'r dudalen we hon gan Ambiwlans Sant Ioan yn cynnwys yr holl hanfodion ar gyfer pecyn sydd wedi'i stocio'n dda.

Archebwch eich presgripsiynau rheolaidd mewn da bryd

Gall gŵyl y banc olygu y gallai gymryd mwy o amser i'ch fferyllfa leol ddosbarthu eich moddion. Os ydy hi’b bryd cael eich moddion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu o leiaf saith diwrnod cyn i chi redeg allan er mwyn sicrhau bod gennych chi eich cyflenwad mewn pryd.

Os ydych chi'n gallu, gallwch archebu eich moddion trwy ddefnyddio Ap GIG Cymru.

Oriau Agor y Fferyllfa

Dros benwythnos gŵyl y banc, bydd eich meddygfa ar gau, yn ogystal â rhai gwasanaethau Gofal Sylfaenol eraill yn y gymuned.

Mae rhai fferyllfeydd cymunedol a fydd ar agor ac ar gael i'ch cynorthwyo. Ymwelwch â'r dudalen we hon i gael rhagor o wybodaeth.

Teimlo'n sâl ond yn ansicr ble i fynd?

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano yn teimlo'n sâl ac mae eich meddygfa ar gau, cysylltwch â GIG 111 Cymru.

Gallwch ymweld â gwefan GIG 111 Cymru, neu ffonio i siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig a fydd yn gallu eich cynghori ar y peth gorau i’w wneud. Gallai hyn fod aros nes bod eich meddygfa ar agor, ymweld ag aelod gwahanol o'r tîm gofal sylfaenol, mynychu'r Tu Allan i Oriau, neu ymweld ag Uned Mân Anafiadau.

Gallwch hefyd ffonio 111 a phwyso Opsiwn 2 os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch.

Cofiwch, 999 neu'r Adran Argyfwng, mewn Argyfwng

Mewn argyfwng, ewch i'r Adran Argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru, neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae rhai enghreifftiau o argyfwng meddygol yn cynnwys:

  • Bod yn anymwybodol 
  • Anhawster anadlu
  • Amau trawiad ar y galon
  • Anaf difrifol neu golled gwaed trwm 
  • Gwendid sydyn neu broblemau lleferydd

Diolch am ein helpu i gadw ein cymunedau'n iach y Pasg hwn. Trwy baratoi ymlaen llaw, dewis y gwasanaeth mwyaf priodol a gofalu am ein gilydd, gallwn i gyd fwynhau gŵyl y banc fwy diogel ac iachach.

26/03/2026