Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw GIG 111 Cymru a sut y gall eich helpu i aros yn iach y gaeaf hwn

Gall y gaeaf fod yn anodd ar eich iechyd, a gall dod o hyd i'r gofal cywir deimlo'n llethol. Mae GIG 111 Cymru yn cynnig cyngor ymarferol ar beth i'w wneud nesaf a gall eich tywys at y gwasanaeth mwyaf priodol, boed hynny'n hunan-ofal gartref, fferyllydd, meddyg teulu, neu ofal brys. 

GIG 111 Cymru yw'r ffordd rhad ac am ddim o gysylltu â'r GIG yng Nghymru o linellau tir a ffonau symudol, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Y gaeaf hwn, nod GIG 111 Cymru yw ei gwneud yn haws i bobl gynllunio ymlaen llaw, rheoli mân salwch, a chael gafael ar y gofal cywir yn gyflym ac yn ddiogel. 

Gallwch gyrchu'r gwasanaeth ar-lein yn www.111.wales.nhs.uk neu drwy ffonio 111. Mae'n darparu cyngor gofal iechyd arbenigol ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r gofal cywir pan fydd ei angen arnoch. 

Mae GIG 111 Cymru yn annog y cyhoedd i: 

  • Sicrhau eich brechiad ffliw os ydych chi'n gymwys 

  • Cadw meddyginiaethau sylfaenol gartref ar gyfer mân salwch 

  • Cynllunio ymlaen llaw trwy archebu presgripsiynau yn gynnar 

  • Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau er mwyn eich lles meddyliol 

Mae gwefan GIG 111 Cymru hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar wahanol afiechydon a chyflyrau, ynghyd ag offer hunangymorth gan gynnwys Chatbot rhithwir (ALBOT) i ateb cwestiynau a'ch tywys i'r gofal cywir. 

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar-lein, gallwch ffonio 111 am gyngor arbenigol. 

Gall defnyddio GIG 111 Cymru wneud gwahaniaeth mawr. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig eich helpu i osgoi teithiau diangen at Damweiniau ac Achosion Brys neu'ch Meddyg Teulu, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen prysur drwy eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Er enghraifft, mae fferyllwyr yn darparu ystod o wasanaethau o dan y cynllun anhwylderau cyffredin sy'n golygu y gallant asesu a rhagnodi'r driniaeth briodol ar gyfer llawer o afiechydon cyffredin, sy'n golygu nad oes angen apwyntiad meddyg teulu bob amser. 

Os ydych chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud neu ble i fynd, ewch i www.111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111. 

Sut y gall GIG 111 Cymru eich helpu i osgoi'r byg chwydu yn y gaeaf 

Mae GIG 111 Cymru yn darparu cyngor gofal iechyd arbenigol 24/7 am ddim, drwy gydol y gaeaf maent yn cynghori'r cyhoedd ar sut i atal a rheoli norofeirws - sy'n fwy adnabyddus fel byg chwydu'r gaeaf. 

Gall norofirws ledaenu'n gyflym mewn cartrefi, ysgolion a lleoliadau gofal, gan achosi symptomau annymunol fel chwydu, dolur rhydd, a phoenau corff. 

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella gartref o fewn ychydig ddyddiau, mae yna hefyd gamau atal syml y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich hun ac eraill y mae GIG 111 Cymru yn eu nodi: 

  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr (nid yw geliau dwylo'n gweithio yn erbyn norofirws) 

  • Diheintiwch arwynebau gyda glanhawyr sy'n cynnwys cannydd 

  • Golchwch ddillad a dillad gwely halogedig ar 60°C 

  • Os byddwch chi'n dal y byg, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n: 

  • Gorffwys ac yn yfed digon o hylifau 

  • Aros draw o'r ysgol neu'r gwaith nes nad ydych wedi bod yn sâl nac wedi cael dolur rhydd am o leiaf 2 ddiwrnod. Dyma pryd rydych chi fwyaf heintus 

  • Cymerwch barasetamol am anghysur 

  • Peidiwch ag ymweld ag ysbytai na chartrefi gofal yn ystod y cyfnod hwn 

Mae gwefan GIG 111 Cymru hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar wahanol afiechydon a chyflyrau, ynghyd ag offer hunangymorth gan gynnwys Chatbot rhithwir (ALBOT) i ateb cwestiynau a'ch tywys i'r gofal cywir. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar-lein, gallwch ffonio 111 am gyngor arbenigol. 

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol "Os oes gennych symptomau Norofirws, cadwch draw o ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill i atal lledaeniad y byg cas hwn. Gall GIG 111 Cymru ddarparu cyngor ac arweiniad proffesiynol i'ch cefnogi drwy'r salwch hwn a salwch eraill." 

Gall defnyddio GIG 111 Cymru wneud gwahaniaeth mawr. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig eich helpu i osgoi teithiau diangen at Damweiniau ac Achosion Brys neu'ch Meddyg Teulu, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen prysur drwy eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Er enghraifft, mae fferyllwyr yn darparu ystod o wasanaethau o dan y cynllun anhwylderau cyffredin sy'n golygu y gallant asesu a rhagnodi'r driniaeth briodol ar gyfer llawer o afiechydon cyffredin, sy'n golygu nad oes angen apwyntiad meddyg teulu bob amser. 

Os ydych chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud neu ble i fynd, ewch i www.111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111. 

Babanod ac Oedolion Hŷn sydd mewn Perygl o Heintiau'r Frest – Sut i Ofalu Amdanyn nhw'r Gaeaf Hwn 

Mae GIG 111 Cymru yn rhybuddio teuluoedd i aros yn wyliadwrus wrth i dywydd oer a firysau tymhorol gynyddu achosion o heintiau'r frest - yn enwedig ymhlith babanod ac oedolion hŷn â chyflyrau sylfaenol fel asthma, COPD, neu ddiabetes. 

Gall heintiau'r frest waethygu'n gyflym, gan arwain at gymhlethdodau difrifol ac, mewn rhai achosion, gofal ysbyty brys. Grwpiau agored i niwed, gan gynnwys oedolion dros 75 oed, sydd fwyaf mewn perygl. 

Mae GIG 111 Cymru yn cynghori'r cyhoedd ar sut i atal heintiau'r frest, adnabod symptomau'n gynnar, a deall pryd i geisio cymorth brys. 

Os nad yw'n argyfwng, gall ffonio 111 neu ymweld â 111.wales.nhs.uk roi arweiniad arbenigol a'ch cyfeirio at y gofal cywir - gan osgoi teithiau diangen i'r Adran Achosion Brys neu'ch Meddyg Teulu. 

Mae GIG 111 Cymru yn darparu cyngor gofal iechyd arbenigol am ddim 24/7, a thrwy gydol y gaeaf maent yn cynghori'r cyhoedd ar atal heintiau'r frest, adnabod symptomau a gwybod pryd i geisio cymorth. Mae hyn yn arbennig o bwysig i fabanod, oedolion dros 75 oed, a'r rhai sydd â chyflyrau fel asthma, COPD neu ddiabetes. 

Dywedodd Tom Fallon, Arweinydd Clinigol Arbenigol Anadlol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Mae ein gwasanaeth 111 GIG Cymru wedi'i baratoi i gefnogi pobl sydd â 

phryderon am eu hanadlu wrth i ni agosáu at y gaeaf. Os ydych chi'n byw gyda chyflwr hirdymor fel asthma neu COPD, rydyn ni eisiau eich helpu i gael mynediad at y gofal cywir cyn gynted â phosibl. Gall gweithredu’n gynt atal cymhlethdodau fel derbyn i’r ysbyty, niwmonia, neu broblemau iechyd cysylltiedig eraill. 

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr gwych yn Asthma & Lung UK, sy’n cynnig cyfres ragorol o adnoddau trwy eu platfform ‘You this Winter’ . Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau hyn yn: https://www.asthmaandlung.org.uk/withyouthiswinter 

“Os oes gennych chi COPD neu os oes gennych chi neu'ch plentyn Asthma, mae'n bwysig sicrhau bod gennych chi gynllun gweithredu cyfoes, fel eich bod chi'n barod rhag ofn i chi fynd yn sâl y Gaeaf hwn. Mae GIG Cymru hefyd wedi datblygu cyfres o apiau y gellir eu defnyddio i'ch cefnogi i reoli'ch symptomau. Gellir dod o hyd iddynt yn: Healthhub – Deall a rheoli eich symptomau o ddydd i ddydd “ 

Mae GIG 111 Cymru yn cynghori'r cyhoedd sut i osgoi dal a lledaenu heintiau, gan gynnwys: 

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr 

  • Cadwch fabanod i ffwrdd o bobl sydd â symptomau annwyd neu ffliw 

  • Glanhewch arwynebau a theganau yn aml 

  • Arhoswch gartref os ydych chi'n sâl er mwyn osgoi trosglwyddo heintiau 

Mae GIG 111 Cymru hefyd yn rhoi cyngor defnyddiol ar bwy ddylai gael ei frechu i amddiffyn ei hun y gaeaf hwn, gan esbonio: 

  • Argymhellir brechiadau ffliw i'r rhai dros 65 oed, y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor neu'r rhai â chyfrifoldebau gofalu. 

  • Argymhellir brechiadau COVID-19 i'r rhai dros 75 oed. 

  • Dylid cynnig y brechiad firws syncytial anadlol (RSV) i oedolion dros 75 oed, menywod beichiog a babanod. Gwiriwch gyda'ch darparwr lleol ynglŷn â hyn. 

Mae GIG 111 Cymru yn nodi'r symptomau i edrych amdanynt gan gynnwys: 

  • Anadlu cyflym neu anhawster anadlu 

  • Gwichian neu beswch parhaus 

  • Gwres uchel 

  • Bwydo gwael mewn babanod 

  • Teimlo'n sâl iawn neu'n ddryslyd mewn oedolion hŷn 

Mae gwefan GIG 111 Cymru hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar wahanol afiechydon a chyflyrau, ynghyd ag offer hunangymorth gan gynnwys Chatbot rhithwir (ALBOT) i ateb cwestiynau a'ch tywys i'r gofal cywir. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar-lein, gallwch ffonio 111 am gyngor arbenigol. 

Gall defnyddio GIG 111 Cymru wneud gwahaniaeth mawr. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig eich helpu i osgoi teithiau diangen at Damweiniau ac Achosion Brys neu'ch Meddyg Teulu, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen prysur drwy eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu gweld fferyllydd o fewn yr awr yn lle diwrnodau aros am apwyntiad meddyg teulu. 

Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng os: 

  • Oes gennych chi neu'ch plentyn anhawster anadlu difrifol — anadlu’n drwm, tagu, methu siarad neu’n sugno rhwng neu o amgylch yr asennau ar bob anadl. 

  • Rydych chi neu'ch plentyn yn gysglyd iawn, yn llipa, neu'n methu deffro na chadw'n effro. 

  • Mae gwefusau, croen neu welyau ewinedd chi neu'ch plentyn yn edrych yn anarferol o welw, yn las neu lwyd. Ar gyfer arlliwiau croen tywyllach, gwiriwch ardaloedd fel y cledrau, gwelyau ewinedd, neu du mewn i'r gwefusau. 

  • Mae eich plentyn o dan 5 oed ac mae ganddo dymheredd islaw 36°C 

  • Rydych chi neu'ch plentyn yn teimlo'n oer iawn, gyda chroen brith neu flotiog, neu’n dangos arwyddion o ddryswch neu wallgofrwydd. 

Os ydych chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud neu ble i fynd, ewch i www.111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111. 

 

03/02/26