Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch iawn o groesawu’r Cynghorydd Rhys Goode fel Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) newydd ei benodi.
Fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol ac yn gyn-Aelod Cabinet ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae gan Rhys brofiad helaeth o rolau uwch ym maes cyfathrebu a materion cyhoeddus. Mae wedi arwain ymgyrchoedd ac ymgynlluniau proffil uchel mewn sefydliadau ledled y DU, gan gynnwys fel Pennaeth Terrence Higgins Trust Cymru, lle bu’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i weithio tuag at ddod â throsglwyddo HIV yng Nghymru i ben.
Gan symud yn ôl i ddyffrynnoedd De Cymru, lle y cafodd ei fagu yn 2021, mae Rhys yn angerddol am gefnogi’r gymuned i ffynnu, ac am sicrhau bod ganddynt y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Rwy’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi’r Cynghorydd Rhys Goode i Fwrdd Cwm Taf Morgannwg. Mae’n dod â dealltwriaeth ragorol o’r heriau a’r cyfleoedd mewn llywodraeth leol, a sut y gallwn ni i gyd weithio’n well gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal lleol mwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl. Rwy’n gwybod y bydd yn gwneud cyfraniad mawr i’r Bwrdd ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.”
Wrth siarad am ei benodiad diweddar, dywedodd Rhys Goode:
“Rwy’n gyffrous ac yn falch iawn o ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rwy’n gwybod bod cyfleoedd gwych i’w cael drwy gryfhau’r gwaith ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan ddarparu i’n cymunedau lleol y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
“Rwy’n edrych ymlaen at fynd ati i weithio, ochr yn ochr â Jonathan a gweddill y Bwrdd, i gyflawni amcanion CTM dros y blynyddoedd i ddod.”
05/01/2026