O ddydd Llun 14 Hydref, mae’r Ganolfan Frechu Cymunedol sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Glanrhyd yn symud i Ysbyty Tywysoges Cymru yn yr hen Adran Iechyd Galwedigaethol.
Bydd cleifion sydd ag apwyntiadau yr wythnos nesaf yn cael eu cysylltu i'w hysbysu bod eu hapwyntiad yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru. Bydd yr un diwrnod ac amser, dim ond yn y lleoliad newydd. Os na fyddwch yn clywed gennym cyn yr wythnos nesaf, cadwch eich apwyntiad ond ewch i'r lleoliad newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Os na allwch wneud eich apwyntiad bellach, cysylltwch â ni ar 01685 726464.
Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi ei achosi.
11/10/2024