Neidio i'r prif gynnwy

Y Gymraeg a Chynhwysiant yn CTM

Y Gymraeg

Gwyliwch y fideo hwn i glywed gan rai o’n staff am sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu rolau a’r manteision y mae’n eu rhoi i ofal cleifion:

 
 

 

Yn CTM, mae gennym dîm Cymraeg pwrpasol i gefnogi ein staff i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith!

Mae hybu hawliau’r Gymraeg yn y gweithle yn ganolog i’n hymrwymiad i waith teg, cydraddoldeb, a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghwm Taf Morgannwg.

Mae ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn galluogi staff CTM i:

  • Dysgu’r Gymraeg yn y gwaith ar bob lefel, ble bynnag yr ydych ar eich taith iaith, ac am ddim
  • Defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith gan gynnwys cyfrifiaduron gyda phecynnau Microsoft a Teams.
  • Defnyddio’r Gymraeg yn eich datblygiad proffesiynol gyda deunyddiau PDR ar gael yn Gymraeg.
  • Defnyddio’r Gymraeg pan fydd wiry n bwysig, fel ar gyfer cwynion, polisïau a phrosesau AD.
  • Defnyddio’r Gymraeg fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig gyda chyrff rheoleiddio fel yr RCN.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r Gymraeg yn CTM, cysylltwch â: CTT_WelshLanguage@wales.nhs.uk

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn BIPCTM, ein gweledigaeth yw meithrin diwylliant tosturiol, cynhwysol a chyfiawn lle gall pawb ffynnu. Yr uchelgais yw sicrhau bod gwahaniaethau’n cael eu croesawu a’u cofleidio, bod anghydraddoldebau’n cael sylw, a bod pawb yn gallu dod â’u hunain i’r gwaith, gan deimlo gwir ymdeimlad o berthyn.

Mae gennym bedwar Rhwydwaith Staff BIPCTM sy’n ymroddedig i ddarparu man diogel i weithwyr o grwpiau gwarchodedig o fewn ein sefydliad. Mae lleisiau cyfunol y rhwydweithiau hyn yn chwarae rhan annatod wrth lywio penderfyniadau a chefnogi ein nodau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod yr egwyddorion hyn wedi’u gwreiddio ym mhopeth rydyn ni’n gwneud. Trwy werthfawrogi amrywiaeth a meithrin amgylchedd cynhwysol, rydym yn adeiladu gweithlu sy'n cynrychioli ein cymunedau yn well. Mae hyn, yn ei dro, yn ein helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau gwell, gan wella canlyniadau gofal iechyd yn y pen draw.

 

Dilynwch ni: