Os oes angen siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am ffrind neu aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewiswch opsiwn 2. Byddwch yn cael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl yn eich ardal chi.
Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae GIG 111 Cymru (pwyswch 2) yn rhad ac am ddim i alw o linell dir - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd.
Gallwch hefyd ymweld ag un o sefydliadau cymorth iechyd meddwl a lles yr Eisteddfod.
Adnoddau defnyddiol eraill