Rydyn ni'n gwybod bod y ffliw yn cylchredeg bob gaeaf. Wrth i ni fynd i mewn i'r misoedd oerach, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n amddiffyn ein hunain a'r rhai o'n cwmpas. Un o'r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol o wneud hynny yw trwy gael brechiad ffliw am ddim.
Mae holl staff CTM yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim.
Hyd yn oed os ydych chi'n ffit ac yn iach, gallwch chi ddal a throsglwyddo'r ffliw o hyd. Mewn ysbyty neu leoliad gofal rydych chi hefyd yn fwy tebygol o gael eich amlygu i'r ffliw oherwydd ei bod hi'n haws i firysau ledaenu mewn mannau prysur - yn enwedig lle mae pobl eisoes yn sâl neu'n agored i niwed.
Y brechlyn ffliw yw eich amddiffyniad gorau a bydd yn rhoi'r cyfle gorau i chi amddiffyn eich hun, eich teulu, cleifion, cydweithwyr a'r GIG y gaeaf hwn.