Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae gwasanaeth Diabetes yr ysbytai ar gael yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth.
Mae Diabetes yn gallu achosi problemau gyda'r traed gan fod glwcos yn gallu niweidio'r nerfau a'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r droed. Gall y newidiadau hyn fod yn raddol iawn, ac mae’n bosib na fyddwch chi’n sylwi arnyn nhw. Dyma pam mae eich traed yn cael eu sgrinio bob blwyddyn yn eich meddygfa. Byddwch chi’n cael dosbarthiad risg, sef lefel eich risg o ddatblygu problemau gyda’r traed. Os oes ydy eich dosbarthiad risg yn gymedrol neu’n uchel, byddwn ni’n eich cyfeirio at y Tîm Podiatreg am asesiad pellach.
Os oes wlser gyda chi ar eich traed, mae hyn yn golygu bod afiechyd actif ar y droed gyda chi a byddwn ni’n eich cyfeirio ar frys at yr Tîm Gofal Clwyfau Podiatreg Uwch. Dyma gyflyrau eraill sy'n cael eu hystyried yn afiechyd actif ar y droed:
I bwy mae’r gwasanaeth?
Mae'r gwasanaeth risg uchel ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd sy'n peryglu eu traed. Mae problemau iechyd fel Diabetes, cylchrediad gwael, niwropathi (colli synhwyrau), arthritis rhiwmatoid neu rai moddion a thriniaethau ar gyfer canser, yn gallu cynyddu'r risg o ddatblygu problemau gyda’r traed. Sylwch nad yw’r ffaith fod Diabetes gyda chi o’r rheidrwydd yn golygu bod eich risg yn uchel.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?
Mae angen i'ch meddyg teulu neu unrhyw ddarparwr gofal iechyd cydnabyddedig arall eich cyfeirio at y gwasanaeth.
Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm
Beth i'w ddisgwyl
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, bydd y podiatrydd yn asesu iechyd eich traed ac yn asesu risg eich traed o ddatblygu wlser a haint neu o gael eu trychu (amputation). Os bydd risg eich traed yn uchel, bydd angen i chi gymryd gofal ychwanegol ac mae’n bosib y bydd angen triniaeth reolaidd arnoch gan bodiatrydd. Mae ein clinigau risg uchel yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau yn y gymuned.
Bydd ein tîm podiatreg uwch yn eich asesu ac yn datblygu cynllun triniaeth. Gallai hyn gynnwys trin wlserau, trin unrhyw haint, ac o bosib eich rhoi mewn cast i dynnu'r pwysau oddi ar eich traed.
Mae’n bosib y cewch eich cyfeirio am belydr-X neu at dîm arbenigol arall, i wneud yn siŵr eich bod yn cael triniaethau priodol pan fydd angen. Mae'r llwybr atgyfeirio hwn yn helpu i atal achosion o drychu a derbyn cleifion i'r ysbyty.
Cysylltwch â ni
Y Bwythyn
Y Comin
Ffordd yr Ysbyty
Pontypridd
CF37 4AL
Cysylltiadau defnyddiol
Toriad y croen yw clwyf. Gallai hyn gael ei achosi oherwydd gormod o bwysau, esgidiau yn rhwbio neu oherwydd trawma i'r croen.
Yr enw ar glwyf sydd ddim yn gwella yw wlser. Gall unrhyw un ddatblygu wlser troed.
Mae datblygiad clwyfau ar draed pobl â diabetes yn ddifrifol, yn enwedig os bydd y clwyfau yn cael eu heintio. Mae wlserau ar y traed yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch y bydd angen torri’r droed i ffwrdd. Mae wlserau traed diabetig yn gofyn am driniaeth Bodiatreg reolaidd a bydd y Podiatrydd yn cytuno ar gynllun triniaeth gyda chi.
Ydy, gall pobl heb ddiabetes ddatblygu wlser ar eu traed o hyd. Mae yna lawer o resymau pam nad yw clwyf yn iacháu.
Os oes man ar eich troed lle mae’r croen wedi torri ac sydd ddim yn gwella, sy'n teimlo'n boeth gyda phlyciau o boen, ac sy’n gollwng neu'n arogli, gorchuddiwch yr ardal gyda gorchudd glân, sych a ffoniwch Podiatreg ar 01443 443003 / 443005 i drefnu atgyfeiriad a/neu apwyntiad yn y clinig clwyfau.
Gweler ein placard traed PWYSIG.
PWYSIG
Os oes gennych unrhyw o'r symptomau PWYSIG, cysylltwch â Podiatreg ar 01443 443003 / 443005 rhwng Dydd Llun - Dydd Gwener, 09.00am - 4.30pm.
Bydd eich manylion yn cael eu cymryd a bydd Podiatrydd yn ffonio'n ôl.
Mae gennym glinigau clwyfau sy’n cael ei gynnal gan Bodiatreg ar safleoedd ysbyty CTM. Mae apwyntiadau fel arfer yn para tua 30 munud.
Podiatrydd â diddordeb arbennig mewn gofal clwyfau fydd yn asesu ac yn trin eich clwyf ar eich troed. Byddwn yn cytuno ar gynllun triniaeth gyda chi, a fydd yn cynnwys cyngor ar esgidiau.
Cewch, cewch chi ddod â rhywun arall gyda chi i'r apwyntiad.
Gallwn ddangos i chi a'ch teulu sut i newid eich gorchudd.
Dyma fideo sy'n dangos sut i newid gorchudd syml: Sut i orchuddio clwyf ar droed
Lawrlwythwch daf;en ‘Gofalu am Eich Clwyf’ gan y Strategaeth Gofal Clwyfau Genedlaethol.
Os ydych yn gaeth gartref gallwn ofyn i'r nyrs ardal ddod i'ch tŷ i roi gorchudd ar eich clwyf troed eto. Ffoniwch 01443 443003 / 443005. Neu os ydych chi'n gallu mynd allan, gallwn drefnu i'ch nyrs bractis wneud hynny.
Mae'r Lletem Repose yn cael ei defnyddio i ysgafnhau'r pwysau sydd ar eich sawdl. Gwyliwch y fideo canlynol am wybodaeth am beth i'w wneud gyda'r lletem Repose: Fideo Byr am Letem Repose