Os bydd unrhyw bryderon gyda chi tra eich bod chi’n aros yn unrhyw un o'n hunedau, byddem ni’n eich annog i'w trafod nhw gydag aelod o’r staff fel bod modd i ni ddatrys y broblem ar unwaith. Gallwch chi hefyd ofyn am gael siarad â rheolwr y ward neu fetron bydwreigiaeth, fyddai'n hapus i drafod unrhyw bryderon gyda chi. Gallwch chi hefyd gysylltu â’n bydwraig profiadau menywod drwy e-bostio CTM.WomensExperiencesCTUHB@wales.nhs.uk.