Gallwch wella eich siawns o feichiogi a chael beichiogrwydd iach drwy ddilyn y camau isod:
Argymhellir eich bod yn cymryd atchwanegiad dyddiol o asid ffolig pan fyddwch chi'n feichiog, neu pan fo siawns y gallech chi feichiogi.
Dylech chi gymryd atchwanegiad 400 microgram o asid ffolig bob dydd cyn i chi feichiogi, a phob dydd wedi hynny, hyd at eich bod chi'n 12 wythnos yn feichiog.
Mae microgram 1,000 gwaith yn llai na miligram (mg). Weithiau mae'r gair microgram yn cael ei ysgrifennu gyda'r symbol Groegaidd μ ac yna'r llythyren g (μg).
Mae asid ffolig yn lleihau'r risg y bydd gan eich babi nam tiwb niwral, fel spina bifida.
Nam tiwb niwral yw pan nad yw llinyn asgwrn cefn y ffetws (rhan o system nerfol y corff) yn ffurfio'n normal.
Efallai y cewch gyngor i gymryd atchwanegiad dos uwch o 5 miligram (5mg) bob dydd.
Efallai y bydd angen i chi gymryd atchwanegiad 5mg o asid ffolig os:
oes gennych chi neu riant biolegol arall y babi nam tiwb niwral
roeddech chi wedi cael beichiogrwydd o'r blaen a oedd wedi'i effeithio gan nam tiwb niwral
oes gennych chi neu riant biolegol arall y babi hanes teuluol o namau tiwb niwral
oes gennych chi ddiabetes
Efallai y bydd eich meddyg hefyd yn argymell atchwanegiad 5mg os ydych chi'n cymryd rhai moddion, fel moddion gwrth-epilepsi neu foddion gwrth-retrofirol ar gyfer HIV.
Siaradwch â meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod angen dos 5mg o asid ffolig arnoch chi, gan y gallant ragnodi dos uwch.
Gallwch gael tabledi asid ffolig mewn fferyllfeydd, neu siarad â meddyg teulu am gael presgripsiwn.
Peidiwch â phoeni os byddwch chi'n beichiogi'n annisgwyl ac nad oeddech chi'n cymryd atchwanegiad asid ffolig ar y pryd. Dechreuwch eu cymryd cyn gynted ag y byddwch chi'n darganfod, nes eich bod chi wedi mynd heibio'r 12 wythnos gyntaf o feichiogrwydd.
Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd wedi'i gysylltu ag amrywiaeth o broblemau iechyd, gan gynnwys:
genedigaeth cynamserol
pwysau geni isel
syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS), a elwir hefyd yn farwolaeth yn y crud
Risg uwch o gamesgoriad
Gall rhoi'r gorau iddi fod yn anodd, ni waeth faint rydych chi eisiau, ond mae cefnogaeth ar gael, yma yn CTM gallwn eich cefnogi i roi'r gorau i ysmygu.
Mae Rhoi’r gorau i ysmygu, y GIG yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor rhad ac am ddim ar roi'r gorau i ysmygu gan gynnwys pan fyddwch chi'n feichiog, a gall roi manylion i chi am wasanaethau cymorth lleol.
Mae Helpa Fi i Stopio yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu trwy gynnig cefnogaeth un i un am ddim gan gynghorydd personol.
Gallwch atgyfeirio eich hun at y gwasanaeth drwy:
Ffonio 0800 085 2219
Tecstio “HMQ” i 80818
Gall mwg o sigaréts pobl eraill niweidio'ch babi, felly gofynnwch i'ch partner, ffrindiau a theulu i beidio ag ysmygu yn eich ymyl.
Mae defnyddio sigaréts electronig (e-sigaréts), a elwir hefyd yn 'fepio', yn dod yn fwy cyffredin. Nid oes llawer o ymchwil wedi'i wneud i ddiogelwch e-sigaréts yn ystod beichiogrwydd.
Mae anwedd e-sigarét yn cynnwys rhai o'r cemegau a allai fod yn niweidiol a geir mewn mwg sigaréts, ond ar lefelau llawer is. Nid yw'n hysbys a yw'r anwedd yn niweidiol i fabi yn ystod beichiogrwydd.
Nes y byddwn yn gwybod mwy, y ffordd fwyaf diogel o amddiffyn eich babi yw osgoi mwg tybaco ail-law ac anwedd ail-law o e-sigaréts. Peidiwch ag ofni gofyn i bobl beidio â fepio o'ch cwmpas, er mwyn helpu i gadw'ch plentyn yn y groth yn ddiogel.
Peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi'n feichiog neu'n ceisio beichiogi. Gall alcohol gael ei drosglwyddo i'ch babi yn y groth. Mae'n bosibl y gall alcohol effeithio ar eich babi yn y groth cyn darganfod eich bod chi'n feichiog, felly byddem yn eich cynghori, os ydych chi'n bwriadu ceisio beichiogi, y dylech chi beidio yfed alcohol neu roi'r gorau iddi cyn gynted ag y cewch brawf positif.
Gall yfed yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed hirdymor i'ch babi, a pho fwyaf y byddwch chi'n ei yfed, y mwyaf yw'r risg.
Os ydych chi dros bwysau, efallai y byddwch chi'n cael problemau beichiogi ac mae triniaeth ffrwythlondeb yn llai tebygol o weithio.
Mae bod dros bwysau (BMI dros 25) neu'n ordew (BMI dros 30) hefyd yn cynyddu'r risg o rai problemau beichiogrwydd, fel pwysedd gwaed uchel, thrombosis gwythiennau dwfn, camesgoriada diabetes yn ystod beichiogrwydd. Mae cysylltiad agos rhwng cynnydd mewn BMI a chynnydd mewn poen yng ngwregys y pelfis, felly gall lleihau pwysau a BMI helpu menywod i deimlo'n fwy cyfforddus yn ystod eu beichiogrwydd.
Cyn i chi feichiogi gallwch chi gyfrifo'ch BMI. Ond efallai na fydd hyn yn gywir ar ôl i chi feichiogi, bydd eich bydwraig yn cyfrifo eich BMI yn ystod eich beichiogrwydd.
Cynghorir bwyta'n iach ac ymarfer corff cymedrol yn ystod beichiogrwydd, ac mae'n bwysig peidio â magu gormod o bwysau.
Gallwch chi gynnal pwysau iach trwy gael deiet cytbwys a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Y canllaw iechyd yw 150 munud o ymarfer corff yr wythnos i fenywod beichiog. Mae ymarfer corff a gweithgaredd hefyd yn hysbys i helpu i leihau straen a gorbryder, a gall hynny, yn ei dro, gefnogi beichiogi.
Gall rhai heintiau, fel rwbela (y frech goch Almaenig), niweidio'ch babi os byddwch chi'n eu dal yn ystod beichiogrwydd.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn imiwn i rwbela, diolch i'r nifer sy'n cael y brechiad rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).
Os nad ydych chi wedi cael 2 ddos o'r brechlyn MMR, neu os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi wedi cael, gofynnwch i feddygfa'ch meddyg teulu wirio'ch hanes brechu.
Os nad ydych chi wedi cael y ddau ddos neu os nad oes cofnod ar gael, gallwch chi gael y brechiadau yn meddygfa eich meddyg teulu.
Dylech osgoi beichiogi am 1 mis ar ôl cael y brechiad MMR, sy'n golygu y byddech angen dull atal cenhedlu dibynadwy.
Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, fel epilepsi neu ddiabetes, gallai effeithio ar y penderfyniadau a wnewch am eich beichiogrwydd – er enghraifft, ble y gallech fod eisiau rhoi genedigaeth.
Cyn i chi feichiogi, trafodwch â'ch arbenigwr neu feddyg teulu ynglŷn â beichiogi.
Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg teulu os oes gennych gyflwr iechyd meddwl ac yn bwriadu beichiogi. Efallai y byddan nhw'n gallu eich atgyfeirio at dîm iechyd meddwl arbenigol sy'n cynnig cefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.
Os ydych chi'n cymryd moddion ar gyfer cyflwr, peidiwch â rhoi'r gorau i'w chymryd heb siarad â meddyg.
Os ydych chi'n cynllunio beichiogi ac mae potensial i ddod i gysylltiad â sylweddau gwenwynig yn eich cartref, gweithle a'r amgylchedd cyfagos, mae'n well ceisio eu hosgoi os yn bosibl. Amlygiad cemegol i ddigwydd trwy anadlu, bwyta neu yfed, neu drwy’r croen. Os ydych chi'n bwriadu beichiogi ac yn pryderu am ddod i gysylltiad â sylweddau peryglus, heintiau neu ymbelydredd yn y gwaith, mae'n bwysig trafod eich bwriad i feichiogi gyda'ch cyflogwr cyn gynted â phosibl.
Os nad ydych chi eisiau trafod eich bwriad i feichiogi gyda'ch cyflogwr, gallwch chi gael gwybodaeth am y risg o ddod i gysylltiad â sylweddau penodol drwy gysylltu ag arbenigwr yn yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn www.hse.gov.uk.