Nid yw pob moddion yn ddiogel i'w chymryd pan fyddwch chi'n feichiog neu'n cynllunio beichiogi, boed ar bresgripsiwn neu'n feddyginiaethau y gallwch eu prynu mewn fferyllfa neu siop.
Os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer salwch meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu neu Gydlynydd Gofal Iechyd Meddwl a pheidiwch â rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth nes i chi drafod hyn gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gyntaf.
Os oes gennych unrhyw anghenion iechyd sy'n bodoli eisoes fel problemau gyda'r galon, diabetes, epilepsi neu'r arennau, siaradwch â'ch meddyg teulu a rhowch wybod i'ch bydwraig pan fyddwch chi'n trefnu eich apwyntiad.