Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio cael babi arall?

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod bwlch beichiogrwydd o 18–59 mis yn fwy diogel o ran canlyniadau i'r fam a'r babi ond dylai'r penderfyniad ystyried amgylchiadau unigol y fenyw (er enghraifft, gallai bwlch byrrach rhwng beichiogrwydd fod yn briodol i fenywod hŷn sy'n pryderu am ddirywiad mewn ffrwythlondeb sy'n gysylltiedig ag oedran).  

Os ydych chi wedi cael camesgoriad o'r blaen, nid oes 'amser cywir' pendant i ddechrau ceisio beichiogi eto. Bydd nifer o ffactorau’n dylanwadu ar y penderfyniad, gan gynnwys pryd rydych chi a’ch partner yn teimlo’n barod; cyflymder eich adferiad corfforol; ac a ydych chi’n aros am ganlyniadau profion neu’n cael eich dilyn ar ôl llawdriniaeth, neu feichiogrwydd ectopig neu molar. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (Camesgoriad Cynnar, ar gael yn www.rcog.org.uk). Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i fenywod sydd wedi colli’r babi yn ystod beichiogrwydd yn ystod y tri mis cyntaf ac yn cynnwys gwybodaeth am geisio cael babi arall. 

Pwysigrwydd deiet iach 

Mae'n bwysig, wrth ystyried beichiogrwydd, eich bod yn bwyta deiet iach a chytbwys. Er mwyn ceisio cynnal pwysau iach cyn beichiogrwydd, dylai menywod:  

  • Seilio prydau bwyd ar fwyd startsh (er enghraifft bara, reis, pasta, tatws), gan ddewis grawn cyflawn os yn bosibl. 

  • Bwyta bwydydd sy'n llawn ffibr (er enghraifft ffrwythau, llysiau, ceirch, ffa, pys, corbys). 

  • Bwyta o leiaf 5 dogn o wahanol ffrwythau a llysiau bob dydd. 

  • Bwyta deiet braster isel. 

  • Bwyta cyn lleied â phosibl o fwyd wedi'i ffrio, diodydd a melysion gyda siwgr ychwanegol (er enghraifft cacennau, diodydd pefriog), a bwydydd eraill sy'n uchel mewn braster a siwgr. 

  • Torri i lawr ar fwydydd wedi'u prosesu a bwyd tecawê 

  • Bod yn ymwybodol o feintiau prydau bwyd a byrbrydau, a pha mor aml maen nhw'n bwyta. 

Mae Ap Foodwise yn rhoi gwybodaeth a chymorth cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd ar sut i sicrhau cydbwysedd o fwyd iachach. 

Mae ymchwil yn dangos, drwy sicrhau pwysau iach (BMI 18.5–24.9 kg/m2) cyn beichiogi, fod y risg o gymhlethdodau beichiogrwydd yn cael ei leihau.  

Risgiau iechyd posibl o fod yn ordew (BMI o 30 kg/m2 neu fwy) gan gynnwys:  

  • Ffrwythlondeb is.  

  • Risg uwch o gamesgoriad.  

  • Diabetes yn ystod beichiogrwydd (dod yn ddiabetig yn ystod beichiogrwydd) 

  • Gorbwysedd yn ystod cyfnod beichiogrwydd/cyn-eclampsia (problemau pwysedd gwaed) 

  • Macrosomia a dystocia’r ysgwydd. 

  • Geni cyn amser. 

  • Genedigaeth cesaraidd 

  • Cymhlethdodau ôl-enedigol (er enghraifft gwaedlif, thrombosis a heintiad). 

  • Marw-enedigaeth. 

  • Anomaleddau cynhenid (er enghraifft namau y tiwb niwral, anomaleddau cardiofasgwlar, taflod hollt, lleihad aelodau, atresia anorectal, hydroceffali). 

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn argymell y dylai menywod sy'n cael eu hystyried yn ordew (BMI o 30 kg/m2 neu fwy) golli pwysau cyn beichiogi. Credir bod colli 5–10% o bwysau eich corff yn arwain at fanteision iechyd sylweddol, a gallai gynyddu eu siawns o feichiogi.  

Os oes gennych BMI isel (llai na 18.5 kg/m2) mae rhai risgiau iechyd posibl o fod o dan bwysau, gan gynnwys:  

  • Ffrwythlondeb is. 

  • Camesgoriad yn y tri mis cyntaf. 

  • Geni cyn amser.  

  • Pwysau geni isel.  

  • Gastroschisis.  

Os oes gennych bryderon am eich arferion bwyta, gofynnwch am gymorth gan eich meddyg teulu.  

Dilynwch ni: