Deuddeg wythnos cyntaf bywyd babi yn y groth, yw'r rhai mwyaf hanfodol mewn sawl ffordd.
Yn ystod y tri mis cyntaf hwn mae holl organau hanfodol y babi yn cael eu ffurfio ac, erbyn tri mis, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dechrau gweithio. Fodd bynnag, nid yw llawer o fenywod hyd yn oed yn amau eu bod yn feichiog nes eu bod yn colli mislif neu'n cael symptomau beichiogrwydd eraill, felly mae'n annhebygol y byddant yn cael eu hapwyntiad cyn-geni cyntaf lawer cyn iddynt fod yn wyth neu naw wythnos yn feichiog - ac yn aml yn hwyrach na hynny.
Os yw'r beichiogrwydd wedi'i gynllunio, mae yna fesurau hawdd y gall pob cwpl eu cymryd a fydd yn lleihau'r risgiau i fabi hyd yn oed cyn i'r beichiogi ddigwydd. Gelwir y mesurau hyn yn ofal cyn-genhedlu.
Rydym yn gwybod y gall rhai ffactorau atal babanod rhag tyfu'n iawn yn y groth yn aml a bod modd osgoi rhai o'r ffactorau hyn (e.e. atal cenhedlu, deiet gwael, ysmygu, fepio, cyffuriau, yfed, llygryddion, afiechyd a drosglwyddir yn rhywiol) oherwydd nad oes ffordd o ddweud ymlaen llaw pa fabanod sy'n debygol o fod mewn perygl, mae'n gwneud synnwyr i bob darpar riant geisio osgoi risgiau o fewn eu rheolaeth.
Nid yw chwe mis cyn beichiogi yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich iechyd, ond yn sicr ceisiwch ystyried eich gofal cyn-genhedlu o leiaf dri mis cyn i chi obeithio beichiogi.
Os ydych chi'n bwriadu cael babi mae yna gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu'ch babi, hyd yn oed cyn i chi geisio beichiogi. Mae gofal cyn-genhedlu yn golygu rhoi'r dechrau gorau i chi a'r babi ar eich taith beichiogrwydd.
Os ydych chi'n bwriadu beichiogi, mae'r GIG yn argymell eich bod chi'n gwneud y newidiadau canlynol:
cymeryd 400mcg o Asid Ffolig*
rhoi’r gorau i ysmygu neu ysmygu llai
bwyta deiet cytbwys ac iach - mae hyn yn gwella ffrwythlondeb yn ogystal ag effeithio ar iechyd eich babi yn y dyfodol
stopio neu yfed llai o alcohol
cadwn egnïol yn gorfforol
rhoi'r gorau i ddefnyddio unrhyw sylweddau anghyfreithlon
lleihau caffein, os ydych chi'n yfed llawer
anelu at sicrhau pwysau iach ar gyfer eich taldra (BMI iach).
Mae hefyd yn bwysig gwirio:
eich bod wedi cael prawf sgrinio serfigol yn ystod y tair blynedd diwethaf
eich bod wedi cael y brechlyn MMR, er mwyn sicrhau eich bod wedi'ch amddiffyn rhag rwbela
nad ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth newydd, na rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth bresennol, heb siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol
nad oes gennych unrhyw heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
*os ydych chi'n ddiabetig, yn epileptig neu os oes gennych chi hanes teuluol o ddiffygion tiwb niwral fel spina bifida neu BMI dros 30, ewch i weld eich meddyg teulu, gan y gallai dos uwch o 5mg gael ei argymell.