Rydym yn argymell bod pob babi, lle bo hynny’n bosibl, yn cael cyfnod cyswllt croen wrth groen â’i fam yn syth ar ôl ei eni. Dylai hyn bara am o leiaf awr, a hyd nes y bydd eich babi wedi cael ei fwydo am y tro cyntaf ac ni ddylid tarfu ar hyn. Mae cyswllt croen wrth groen yn helpu eich babi i gadw'n gynnes, yn rheoli curiad ei galon a'i anadlu ac yn deffro ei reddf naturiol i fwydo.
Bydd eich bydwraig yn eich cefnogi i gael cyfnod cyswllt croen wrth groen gyda'ch babi ac i chwilio am arwyddion bod eich babi yn barod i'w fwydo. Bydd yn dangos i chi beth i chwilio amdano er mwyn gwybod bod eich babi yn ddiogel ac yn iach wrth iddo fod groen wrth groen.
Os na allwch gael cyfnod croen wrth groen ar unwaith, gall eich partner wneud hyn yn eich lle, nes eich bod yn barod i wneud hynny eich hun. Nid yw cyswllt croen wrth groen yn rhywbeth ar gyfer genedigaeth yn unig, gall fod yn rhywbeth fydd yn eich tawelu ac yn eich ymlacio chi a'ch babi, a hynny ar unrhyw adeg.
Os bydd yn rhaid i'ch babi gael ei dderbyn i ofal arbennig, byddwch yn cael cymorth i gael cyfnod croen wrth groen cyn gynted â phosibl.
Dolenni Defnyddiol