Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w roi yn eich bag geni

PECYN RHESTR WIRIO ESGOR A GENI 

Mae'n bryd dechrau pacio ar gyfer genedigaeth eich babi! 

Yn ogystal â phacio ar gyfer yr ysbyty, bydd angen i chi hefyd gael ychydig o bethau yn barod, fel sedd car i ddod â'ch babi adref a hanfodion ar gyfer y dyddiau cynnar. 

Mae'n syniad da cael popeth yn barod erbyn 37 wythnos, ond rydym yn argymell dechrau tua 32 wythnos. 

Ar gyfer esgor a rhoi genedigaeth Ar gyfer ar ôl yr enedigaeth
  • Nodiadau mamolaeth 

  • 1-2 ffrog nos neu grysau T mawr 

  • Sanau neu sliperi 

  • Hwdi neu gŵn. 

  • Diodydd a byrbrydau 

  • Llyfrau/cylchgronau 

  • iPad / clustffonau a/neu 
    gemau 

  • Gwlanen, potel chwistrellu neu ffan llaw 

  • Balm gwefusau  

  • Clustog ychwanegol 

  • Arian 

  • Camera Ffôn 

  • Gwefryddion  

  • Brws dannedd a phast dannedd 

  • Gel cawod a siampŵ 

  • Brwsh gwallt a bobl gwallt 

  • Potel dŵr gyda gwelltyn. 

  • 1-2 ffrog nos sy’n agor yn y blaen 

  • Gŵn a sliperi 

  • 5 pâr o drowsus cyfforddus â gwasg uchel 

  • 1 pecyn o badiau glanweithiol neu famolaeth 

  • 2-3 bra nyrsio 

  • Padiau bron 

  • Dillad ac esgidiau llac i wisgo wrth ddod adref  

  • Hyd at 5 gwisg, fest a het babi 

  • 1 pecyn o gewynnau i fabanod newydd-anedig 

  • Gwlân cotwm 

  • Blanced neu siôl babi 

  • Gwisg dod adref i'r babi 

  • Sedd car 

  • Plygiau clust / mwgwd llygaid cwsg 

Dylai eich partner geni ddod â dillad sbâr a phethau ymolchi hefyd. Efallai hoffech chi bacio gyda nhw fel y gallan nhw ddod o hyd i bethau'n gyflym pan fyddwch chi'n brysur yn rhoi genedigaeth 

Dilynwch ni: