Neidio i'r prif gynnwy

Fy amgylchedd geni

Pam mae'r amgylchedd geni mor bwysig? 

Mae gan eich amgylchedd geni rôl bwysig wrth helpu i gynhyrchu hormon o'r enw ocsitocin, neu’r enw cyffredin am hwn yw hormon cariad. 

Mae ocsitocin yn digwydd yn naturiol ac mae'n gweithio ochr yn ochr â hormonau eraill fel dopamin a serotonin. Gyda'i gilydd maen nhw’n achosi ymchwydd o emosiwn cadarnhaol. Mae ocsitocin hefyd yn chwarae rhan annatod mewn genedigaeth a mamolaeth. 

Yn ystod y cyfnod esgor, ocsitocin yw'r ysgogiad i'r cyfangiadau pwerus a fydd yn helpu i deneuo ac agor y groth ac yn eich galluogi i eni eich babi. 

Yn dilyn genedigaeth, mae ocsotocin hefyd yn helpu i ddychwelyd y groth i'w faint blaenorol, cychwyn cynhyrchu llaeth ac yn annog bondio rhwng y fam a'r babi. 

Gall lefelau isel o ocsitocin yn ystod esgor achosi i gyfangiadau stopio neu arafu a allai arwain at argymhelliad gan eich bydwraig neu'ch meddyg i awgrymu dull geni arall. 

Fodd bynnag, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch helpu’r corff i greu ocsitocin naturiol, gan gynnwys addasu eich amgylchedd geni. 

  

Sut alla i wneud hyn? 

Tymheredd – 

Efallai na fydd gan eich ystafell thermostat a'r gallu i newid y tymheredd. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod chi'n gyfforddus, ddim yn rhy boeth a ddim yn rhy oer. 

Meddyliwch am bacio ffan llaw a'ch hoff flanced, neu rywbeth sy'n eich cysuro ac yn eich atgoffa o fod yn ddiogel ac yn gynnes hefyd yn helpu i roi hwb i'ch lefelau ocsitocin a hormonau cadarnhaol eraill. 

  

Lle i gerdded / symud / newid safle  

Mae symud (cerdded a symud i wahanol safleoedd) yn bwysig yn ystod esgor, nid yn unig o ran rhoi hwb i'ch ocsitocin ond hefyd i helpu'ch corff trwy brosesau ffisiolegol esgor. 

Os yw'r gwely yn digwydd bod yn ganolbwynt i'ch ystafell eni, gofynnwch i'r fydwraig ei symud i un ochr neu newid y gwely er mwyn eich helpu i symud / gwella safle eich hun. Bydd hyn yn helpu i greu lle i chi gerdded, symud a dawnsio trwy bob cyfangiad. 

  

Clustogau digonol 

Os yw hyn yn rhywbeth y credwch fyddai'n gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus, dewch ag un o'ch cartref. Nid yn unig y mae hyn yn gwella eich cysur ond bydd hefyd yn rhoi ymdeimlad o gyfarwydd-deb, gan y bydd eich arogl drosto i gyd a bydd yn eich atgoffa o gartref. 

Goleuo 

Goleuadau isel, addasadwy sy'n creu'r amgylchedd geni gorau ac mae ein canolfan eni yn gallu cynnig hyn. Mae gennym hefyd lampau yn ein hunedau obstetrig felly gallwn bylu goleuadau os dymunwch. 

Mae'r goleuadau hwyliau hyn yn helpu i greu lle ymlaciol, gan alluogi rhyddhau ocsitocin. Os ydych chi'n rhoi genedigaeth yn ystod y dydd, caewch y llenni neu'r bleindiau yn eich ystafell, diffoddwch y goleuadau neu eu troi i lawr a defnyddiwch unrhyw oleuadau neu lampau ochr sydd ar gael. Efallai y byddwch hefyd am ddod â chanhwyllau batri y gellir eu gosod o amgylch eich ystafell. 

 

Preifatrwydd 

Er y bydd eich bydwraig yn gweithio hyd eithaf ei gallu i sicrhau bod eich ystafell eni yn cynnal eich preifatrwydd a'ch urddas bob amser, gall aelodau eraill o'r tîm weithiau guro wrth y drws neu ddod i siarad â chi hun neu'ch bydwraig. Gellir creu arwydd i roi ar y drws i atgoffa'r tîm i gnocio'n ysgafn ac i aros i gael eu gwahodd i'r ystafell helpu i leihau aflonyddwch diangen. 

  

Byrbrydau   

Bydd y fydwraig yn rhoi dewis cyfyngedig o fwyd a diod i chi drwy gydol eich amser gyda ni, gan fod cynnal eich lefelau egni a sicrhau eich bod wedi cael digon o ddŵr yn hynod bwysig. Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi'n teimlo'n llwglyd ac felly ddim eisiau bwyta. Drwy bacio detholiad o'ch hoff fyrbrydau, efallai y byddwch nid yn unig yn fwy tueddol o'u cael, ond maen nhw hefyd yn helpu i roi hwb i'r ymdeimlad hwnnw o gyfarwydd-deb a hapusrwydd ac yn eu tro, eich lefelau ocsitocin. 

  

Cerddoriaeth 

I'r rhai sy'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, gall gallu clywed eich hoff ganeuon yn chwarae yn y cefndir eich helpu chi i ymlacio a rhoi hwb i'ch hwyliau, eich endorffinau a'ch lefelau ocsitocin. Fel arall, efallai y byddai'n well gennych rywbeth fwy meddal, fel trac hypno-enedigaeth. 

Rydw i’n eich annog i'w wneud yn arbennig i chi ac i bersonoli eich profiad gymaint ag y gallwch, p'un a ydych mewn ward esgor, canolfan geni neu gartref. Trafodwch gyda'ch partner geni yr elfennau gwahanol sy'n bwysig i chi. 

Siaradwch â'ch bydwraig gymunedol, gan y bydd beth sydd ar gael ym mhob lleoliad geni yn amrywio a byddan nhw’n gallu darparu'r cyngor mwyaf cywir. 

Dilynwch ni: