Mae clywed curiad calon eich babi yn werthfawr ac yn galonogol i lawer o rieni; fodd bynnag mae'n bwysig mai dim ond bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol hyfforddedig sy'n defnyddio doppler i wrando.
Wrth ddefnyddio doppler llaw, mae'n bosibl i guriad calon y fam ei hun a phwls y brych (placenta) swnio fel curiad calon y babi. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi'n gwrando i mewn, efallai na fyddwch chi'n clywed curiad calon y babi o gwbl a gallwch chi dawelu eich meddwl ar gam.
Mae hefyd yn anodd iawn gwrando ar guriad calon y babi cyn tua 14-16 wythnos, felly os na allwch ei glywed, gall hyn achosi llawer o banig a gorbryder diangen.
Cadw llygad ar symudiadau eich babi yw'r ffordd orau i rieni fonitro ei lles. Os oes gennych unrhyw bryderon am symudiadau eich babi; p'un a ydyn nhw wedi arafu neu wedi newid patrwm, rhaid i chi gysylltu â'ch uned famolaeth ar unwaith i gael eich monitro'n iawn.
Mae Doppler llaw yn ddyfeisiau maint poced sy'n gweithio ar fatri sy'n anfon tonnau uwchsain amledd uchel. Fel arfer mae set llaw, seinydd gosodedig, a throswr sydd wedi'i osod ar eich bwmp. Mae'r tonnau uwchsain yn mynd trwy'ch croen a'ch meinwe, ac yna'n bownsio'n ôl. Yna mae'r bowns hwn yn cael ei gyfieithu i sain.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch symudiadau eich babi yn ystod eich beichiogrwydd, peidiwch â defnyddio'ch doppler eich hun ond ceisiwch gyngor gan eich bydwraig neu'ch uned Famolaeth leol. Gallwch ddod o hyd i'n manylion cyswllt yma .