Neidio i'r prif gynnwy

BadgerNotes

Badger Notes - Ap personol newydd ar gyfer cleifion mamolaeth

Gall darpar rieni ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nawr gael mynediad digidol at eu cofnodion mamolaeth, yn dilyn lansio ap Badger Notes.

Mae'r system newydd yn rhoi mynediad diogel, amser go iawn i fenywod beichiog a phobl sy'n rhoi genedigaeth i'w gwybodaeth mamolaeth yn uniongyrchol o'u ffôn, tabled neu gyfrifiadur.

Drwy’r ap, gall darpar rieni weld manylion apwyntiadau, canlyniadau profion, adroddiadau sganiau a nodiadau sydd wedi’u cofnodi gan eu bydwraig neu dîm gofal iechyd. Mae gwybodaeth yn cael ei diweddaru mewn amser go iawn, gan helpu teuluoedd i aros yn wybodus drwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol.

Bydd yr ap yn cael ei gyflwyno mewn dau gam. O 17 Mawrth 2026 ymlaen bydd unrhyw un sy'n cofrestru beichiogrwydd newydd yn defnyddio'r system newydd. Bydd gan unrhyw un sydd eisoes wedi cofrestru beichiogrwydd cyn y dyddiad hwn fynediad i'r system yn ddiweddarach yn yr haf.

Mae Badger Notes yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae rhan fwy gweithredol yn eu taith mamolaeth. Gall cleifion:

  • Ychwanegu gwybodaeth bersonol fel alergeddau a hanes meddygol
  • Cofnodi eu dewisiadau a'u cynlluniau geni
  • Derbyn canllawiau ac adnoddau wedi'u teilwra gan eu bydwraig
  • Rhannu adborth am eu profiadau gofal

Mae'r ap yn cynnwys nodweddion ychwanegol fel canllaw beichiogrwydd wythnos wrth wythnos, cipolwg ar ddatblygiad babanod, a lle ar gyfer cofnodion dyddiadur personol.

I gofrestru eich beichiogrwydd, gallwch gael mynediad i'r ap Badger Notes newydd gan ddefnyddio'r URL canlynol:

https://www.badgernotes.net/SelfReferral/CareLocation/CTMUHB 

neu drwy sganio'r Cod QR:

Dilynwch ni: