Mae'r dudalen hon ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau rheoli pwysau, neu sydd wedi hunan-gyfeirio eu hunain am gymorth rheoli pwysau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae amrywiaeth o ddolenni isod y gallai fod yn ddefnyddiol i chi ac yn eich cefnogi yn ystod eich taith rheoli pwysau. Os penderfynwch beidio â defnyddio unrhyw un o'r rhain, mae hynny'n iawn hefyd. Ni fydd yn newid pa mor gyflym y cewch eich gweld.
Rydym yn ceisio cadw ein rhestr aros mor gyfredol â phosibl. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i wirio a oes angen mewnbwn arnoch o hyd. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad, e-bost neu rif ffôn, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at CTM.WeightManagement@wales.nhs.uk neu ffonio 01685 728590. Os nad oes angen gwasanaethau rheoli pwysau arnoch chi mwyach, rhowch wybod i ni a byddwn yn diweddaru ein rhestr aros.
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch pwysau a dydych chi ddim wedi’ch cofrestru neu wedi cael eich atgyfeirio at ein gwasanaethau eto, gofynnwch i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio chi. (Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar system hunan-gyfeirio a byddwn yn gallu darparu manylion yn fuan).