Beth rydyn ni’n ei wneud
Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae tair uned cleifion mewnol, sy’n darparu adferiad ac adsefydlu Iechyd Meddwl mewn lleoliad cleifion mewnol. Caiff yr unedau eu staffio gan nyrsys iechyd meddwl cymwys a staff cymorth, sy'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach.
Mae ein tîm gofal arbenigol yn cynnig asesiad a chynllunio gofal unigol ar y cyd â'n cleifion. Rydym yn defnyddio nifer o fesurau canlyniadau i fonitro ein perfformiad
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unigolion ag anawsterau iechyd meddwl cymhleth a pharhaus sy'n gysylltiedig â lefelau uchel o drallod elwa ar y gwasanaeth hwn.
Mae dwy o'r unedau yn derbyn dynion a menywod. Mae un uned ar gyfer dynion yn unig (Yr Uned Gwella â Chefnogaeth).
Yn gyffredinol, bydd cleifion yn dod atom o wardiau triniaeth yn unedau iechyd meddwl yr ysbytai cyffredinol dosbarth mwy, o amgylcheddau diogel, ac o bryd i'w gilydd o gartref.
Gwneir pob atgyfeiriad i'r gwasanaeth gan weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn ymwneud â gofal y person.
Beth i'w ddisgwyl
Yn gyntaf oll, rydyn ni am roi cryfderau, sgiliau a gallu i’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth a sicrhau bod modd iddyn nhw ddefnyddio’r rhain fel sail wrth iddyn nhw gymryd camau tuag at welliant.
Yn dilyn atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol, bydd yr unigolyn yn cael ei drafod yn ein cyfarfod pwynt mynediad sengl. Os yn briodol bydd asesiad yn cael ei drefnu gan ein staff adsefydlu. Yna byddwn ni’n rhoi adborth i’r tîm atgyfeirio a’r unigolyn ynghylch pa mor briodol yw ein gwasanaeth, ac os na fyddwn yn gwneud hynny byddwn yn rhoi argymhellion ar gyfer opsiynau amgen.
Cysylltwch â Ni
Er nad ydym yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan unrhyw un heblaw gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r person, gallwch gysylltu â ni i gael trafodaeth ar y rhifau ffôn isod.
Yr Uwch Nyrs ar gyfer y tair uned yw Ann Orrells.
Tŷ Pinewood
1-2 Stryd Fawr
Treorci
Rhondda Cynon Taf
CF42 6AE
Ffôn: 01443 777161
Yr Uned Gwella â Chefnogaeth
The Mattie Collins Way
Cwm Parc
Treorci
CF42 6YG
Ffôn: 01443 443443 Est 75157
Cefn yr Afon
71A Heol y Chwarel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JS
Beverley.francis@wales.nhs.uk
Ffôn: 01685 763150