Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae Gwasanaethau Dydd Pobl Hŷn yn rhoi cymorth i unigolion sy'n byw gyda diagnosis o ddementia sy'n byw yn y gymuned, waeth beth fo'u hoedran. Nod y gwasanaeth yw gwella lles cymdeithasol a meddyliol trwy ryngweithio cadarnhaol a gweithgareddau ystyrlon. Bydd gan yr unigolyn fynediad at dîm amlddisgyblaethol, gan leihau effaith dementia ar y person a'i deulu.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Bydd yn ofynnol i gleifion sy'n mynychu gwasanaeth dydd fodloni'r meini prawf a osodwyd ar gyfer y gwasanaeth er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion yr unigolyn.
Bydd angen cwblhau atgyfeiriad a'i anfon yn uniongyrchol at dîm rheoli'r uned ddydd, lle bydd yn cael ei sgrinio gan y rheolwyr cyn i asesiad gael ei gynnig.
Beth i'w ddisgwyl
Mae pwyslais cryf ar gynnal gweithrediad a'r gallu i gyflawni tasgau bob dydd. Bydd unigolion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau galwedigaethol, tra'n gwella ymgysylltiad cymdeithasol mewn amgylchedd cyfeillgar, cartrefol. Mae gan yr uned ddydd Nyrsys Iechyd Meddwl Cofrestredig sy'n monitro iechyd meddwl pob unigolyn fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol.
Cysylltwch â ni
Tŷ Enfys ym Mharc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ
Ffôn: 01685 721721
Uned Ddydd Lewis Merthyr
Ysbyty George Thomas
Mattie Collins Way
Treorci
CF42 6LD
Ffôn: 01443 430022
Uned Ddydd Ton-teg
Y Comin
Pontypridd
CF37 4AL
Ffôn: 01443 443613