Neidio i'r prif gynnwy

Ecsema

Rydym yn darparu clinigau ecsema dan arweiniad nyrsys i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ecsema. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ymgynghorwyr, meddygon teulu, ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol. 

Mae gwasanaethau’n cynnwys y canlynol: 

  • Cymryd hanes clinigol ac asesu difrifoldeb ecsema 

  • Argymhelliad triniaethau, gan gynnwys meddalyddion croen ac elïau steroid 

  • Dangos sut i ddefnyddio triniaethau  

  • Darparu gwybodaeth ysgrifenedig gan gynnwys cynllun gofal croen dyddiol a chanllaw uned blaen bysedd 

  • Adolygiadau cleifion allanol rheolaidd i fonitro triniaethau ac asesu gwelliannau 

  • Ymweliadau â’r cartref yn ôl yr angen i wirio cynnydd yn dilyn apwyntiad claf allanol  

  • Ymweliadau â’r cartref i ddangos sut mae triniaethau'n cael eu defnyddio ac i gael cefnogaeth 

  • Ymweliadau â’r cartref ar y cyd ag ymwelwyr iechyd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd  

  • Atgyfeiriadau at ddermatolegwyr ar gyfer ecsema difrifol 

  • Darparu cefnogaeth mewn clinigau dermatoleg ymgynghorol 

  • Darparu cefnogaeth mewn clinigau alergedd ymgynghorol  

  • Cymorth ac addysg i staff meithrinfeydd ac ysgolion  

Dilynwch ni: