Neidio i'r prif gynnwy

Asthma

Rydym yn darparu clinigau anadlol ymgynghorol a chlinigau asthma dan arweiniad nyrsys. Mae plant yn cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, drwy'r adran damweiniau ac achosion brys neu drwy gael eu derbyn i ward. Yn ystod adolygiadau clinig, mae hanes clinigol yn cael ei gymryd a bydd argymhellion triniaethau sy'n cynnwys meddyginiaethau anadlu a thrwy'r geg yn cael eu cynnig. Bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnig. 

Mae gwasanaethau’n cynnwys y canlynol: 

  • Asesiad o dechneg mewnanadlydd  

  • Prawf o weithrediad yr ysgyfaint  

  • Monitro llif anadl  

  • Adolygiadau ward ar gyfer atgyfeiriadau a derbyniadau acíwt 

  • Ymweliadau â'r cartref ac yn y gymuned i blant ag asthma 

  • Addysg a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, rhieni a staff ysgolion i adnabod a rheoli symptomau asthma  

  • Darparu cynlluniau gweithredu asthma personol i gefnogi hunan reoli asthma  

  • Atgyfeiriadau o roi'r gorau i ysmygu  

Dilynwch ni: