Neidio i'r prif gynnwy

Alergedd

Yn ein Gwasanaeth Alergedd rydym yn gwneud diagnosis ac yn rheoli plant ag amrywiaeth o alergeddau o fewn ein clinigau dan arweiniad ymgynghorwyr. 

Ymweld â'r Gwasanaeth Alergedd 

Pan fydd claf yn ymweld, byddwn yn cymryd hanes manwl ac efallai y byddwn yn cynnal profion pigiadau croen i helpu i wneud diagnosis o alergedd neu, ar adegau, efallai y bydd angen prawf gwaed. 

Os mae diagnosis yn cael ei wneud, rydym yn darparu cynlluniau alergedd a chyngor ar bethau i'w hosgoi a sut i reoli adweithiau yn y dyfodol. Caiff plentyn ei adolygu'n rheolaidd yn y clinig alergedd tra bo pryderon alergedd parhaus. 

Mae gwasanaethau’n cynnwys y canlynol: 

  • Mae nyrsys alergedd arbenigol yn cynnal heriau bwyd dan oruchwyliaeth pan fo angen 

  • Cynnig cyngor a hyfforddiant i rieni, ysgolion a meithrinfeydd ynglŷn â rheoli alergeddau bwyd, gan gynnwys anaffylacsis 

  • Hyfforddiant EpiPen a darparu cynlluniau gweithredu alergedd 

  • Gwneud atgyfeiriadau ar gyfer cyngor deieteg 

  • Cymorth gyda rheoli ecsema ac asthma, gan gynnwys rhoi triniaethau a thechneg mewnanadlydd  

Dilynwch ni: