Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd ymgysylltu â'r cyhoedd – rhannwch eich barn

Bydd cyfnod ymgysylltu 10-wythnos yn rhedeg o 9.00yb ar ddydd Mercher 28 Awst 2024 tan 5.00yp ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2024.

Arolwg

Rhowch adborth i ni trwy gwblhau'r arolwg ar-lein trwy'r ddolen hon.

Fel arall gallwch lenwi'r ffurflen a'i hanfon atom naill ai:

FAO: Ymgysylltu â Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl 
Ysbyty Glanrhyd
Clinig Angleton
Ffordd Tondu
Pen-y-bont
CF31 4LN

Os ydych chi'n postio'ch arolwg, rhowch deitl i'ch post: Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn

Mae fersiwn argraffadwy o'r arolwg ar gael yma.

Sesiynau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Mae ein bwrdd iechyd wedi trefnu nifer o gyfarfodydd ymgysylltu yn ystod y cyfnod ymgysylltu, yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, perthnasau a sefydliadau partner gan gynnwys awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol a chymunedol.

Gall pobl hefyd fynychu sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd cyffredinol ar-lein, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau ar y dyddiadau canlynol:

Ar-lein trwy Teams
  • Dydd Mawrth 10 Medi 2024, 13.00yp i 14.00yp
  • Dydd Gwener 20 Medi 2024, 10.00yb i 11.00yb

Os hoffech ymuno ag un o’r sesiynau ar-lein hyn, anfonwch e-bost atom yn CTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk a byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer y sesiwn.

Ffyrdd eraill o rannu eich adborth

Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.

Gallwch hefyd e-bostio unrhyw adborth atom yn: CTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk

Os hoffech chi rannu unrhyw adborth yn bersonol, ysgrifennwch atom yn CTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud trefniadau gyda chi.

Dilynwch ni: