Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn ar fodel y dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn ar draws Cwm Taf Morgannwg

Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn.  

Defnyddir y term 'dementia' i ddisgrifio syndrom a all gael ei achosi gan nifer o afiechydon lle mae dirywiad cynyddol mewn sawl maes gweithrediad, gan gynnwys dirywiad yn y cof, rhesymu, sgiliau cyfathrebu a'r gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol. Gall pobl hefyd ddatblygu symptomau ymddygiadol a seicolegol fel iselder, seicosis ac ymddygiad ymosodol.  

Os oes unrhyw un yn poeni am golli cof yn ein cymuned, rydym yn annog pobl i siarad â’u meddyg teulu – mae llawer o gefnogaeth a help ar gael.   

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal adolygiad o’i wasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn.  

Edrychodd yr adolygiad ar:  

  • Sut mae ein gwasanaethau'n cael eu darparu ar hyn o bryd i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia;  

  • Y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia ar draws ein rhanbarth; a 

  • Sut mae ein gwasanaethau’n cymharu â gwasanaethau eraill ledled Cymru a’r DU ehangach o ran arfer gorau.   

Nododd yr adolygiad fod gwasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn yn cael eu darparu’n wahanol iawn ar draws sawl rhan o Gymru a’r DU, gyda chanlyniadau gwahanol i bobl sy’n byw gyda dementia. 

Dweud eich dweud

Mae ein poblogaeth hŷn yn cynyddu a bydd llawer mwy o alw am ein gwasanaethau dementia iechyd meddwl yn y dyfodol.  

Rydym am sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia, yn awr ac yn y dyfodol, yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ar yr adeg iawn, ac yn y lle iawn. 

Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau gofal dydd, ond rydym yn gwahodd ein cymunedau i rannu eu barn ar 'wasanaeth cymunedol peripatetig' arfaethedig yn y dyfodol. 

Beth yw Gwasanaeth Cymunedol Peripatetig?

Mae gwasanaeth cymunedol peripatetig yn wasanaeth hyblyg. Yn hytrach na darparu cefnogaeth a gofal mewn lleoliad sefydlog, bydd gwasanaeth cymunedol peripatetig yn teithio o amgylch rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, gan gyrraedd gwahanol leoliadau i gefnogi unigolion i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

Byddai'r gwasanaeth ar gael mewn nifer o leoliadau gan gynnwys cartrefi a lleoliadau cymunedol.

Y nod wrth symud i Wasanaeth Cymunedol Peripatetig yw cynyddu faint o gymorth arbenigol sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia, i gefnogi pobl i fyw'n dda yn eu cymuned, cyhyd ag y bo modd.

Gwybodaeth Ategol

Cynhyrchwyd y canlynol i ddarparu mwy o wybodaeth am wasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn ac i chi roi gwybod i ni am eich barn.

Dilynwch ni: