Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Mân Anafiadau

Gall oedolion a phlant dros un oed gyda'r cyflyrau canlynol ymweld â'n Uned Mân Anafiadau (MIU) i gael asesu a thriniaeth: 

  • Anafiadau i’r breichiau neu’r coesau a mân anafiadau i’r pen, y wyneb, y gwddf, y cefn a’r frest 

  • Brathiadau gan bobl, anifail neu bryfed 

  • Mân losgiadau neu sgaldiadau 

  • Clwyfau neu grafiadau 

  • Corffynnau estron yn y clustiau, y trwyn a’r feinwe feddal 

 

Oriau agor yr Uned Mân Anafiadau

Ysbyty Cwm Rhondda: 8.30am i 4.30pm

Ysbyty Cwm Cynon: 9am – 5pm

Mae'r ddwy uned mân anafiadau ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Gallwch gerdded i mewn ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor.

 

Penwythnosau a Gwyliau Banc

Mae Uned Mân Anafiadau ar gael yn Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy’n agored ar benwythnosau a gwyliau banc. Yr oriau agor yw 8yb tan 8yp.

Gallwch gerdded i mewn unrhyw bryd yn ystod yr oriau hyn.

Dilynwch ni: