Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch dannedd neu gyda’ch deintgig/poen deintyddol, cysylltwch â'ch deintydd rheolaidd yn ystod ei oriau agor arferol.
Os nad oes deintydd rheolaidd gyda chi ac os oes angen triniaeth frys, ffoniwch y Tîm Deintyddol Brys ar y rhifau isod:
Yn ystod yr wythnos O ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4.30pm |
0300 1235060 |
Gwasanaeth tu allan i oriau O ddydd Llun i ddydd Gwener 6.30pm i 8am 24 awr, ar y penwythnos ac ar wyliau’r banc |
|
I ddod o hyd i ddeintydd yn eich ardal chi, ewch i: 111wales.nhs.uk/localservices
Y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gofal deintyddol i gleifion agored i niwed sydd o bosib yn ei chael hi'n anodd mynd i ddeintyddfa ar y stryd fawr e.e. pobl sy’n gaeth i’r cartref.
Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel deintydd, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd, eich cyfeirio chi at y gwasanaeth hwn.
Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun neu aelod o'r teulu drwy ffonio: