Mae cysylltiad clir rhwng iechyd ein pobl ac iechyd ein planed. Trwy CTM2030, byddwn ni’n gofalu am y ddau, gan ystyried sut mae arferion mwy cynaliadwy ac adferol i’r amgylchedd yn gallu gwella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae ein strategaeth datgarboneiddio yn nodi’r gwaith sydd wedi ei wneud, y gwaith sy’n dal i fynd rhagddo a’r heriau sydd o’n blaenau wrth i ni geisio dod yn sefydliad mwy cynaliadwy a chyfrifol yn amgylcheddol.
O’n hadeiladau a’r ffordd rydyn ni’n teithio o gwmpas, i’n caffael a’r ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau, mae gennym oll ran i’w chwarae wrth wneud y newidiadau a fydd yn adeiladu dyfodol iachach i bobl a’r blaned; a dim ond drwy weithio gyda'n partneriaid ar draws CTM y gallwn gyflawni hynny.
Mae'r ddogfen hon yn cael ei chyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd a bydd yn cael ei hychwanegu at ein gwefan yn fuan iawn.
Darllenwch ein strategaeth lawn yma: