Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) yn Gyd-bwyllgor o’r saith Bwrdd Iechyd sy’n gweithredu ar y cyd ar eu rhan. Fodd bynnag, mae Byrddau Iechyd unigol yn y pen draw yn atebol i’w poblogaeth a rhanddeiliaid eraill am ddarparu’r gwasanaethau a gomisiynir gan y CBCGC ar gyfer trigolion eu hardal.

Cafodd y CBCGC ei sefydlu mewn ymateb i ganfyddiadau adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i’r trefniadau comisiynu cenedlaethol a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) a sefydliadau’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (UGCC). O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd y CBCGC yn disodli PGAB a PGIAC a bydd yn cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau a gomisiynwyd yn flaenorol gan y pwyllgorau hyn a'r UGCC, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau GIG 111 Cymru, a'r Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd yn cynnal Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ar ran GIG Cymru.

Mae hysbysiadau a phapurau cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Comisiynu ar gael yma:

Hysbysiad Cyfarfod y Cyd-bwyllgor - Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Papurau Cyfarfod y Cyd-bwyllgor - Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru