Neidio i'r prif gynnwy
Lauren Edwards

Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd

Dechreuodd Lauren Edwards yn rôl swydd Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Ebrill 2022.

Ymunodd Lauren â CTM fel Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym mis Tachwedd 2021, ac mae wedi bod yn arweinydd amlbroffesiynol am fwy na 10 mlynedd. Cafodd ei magu yn y gogledd lle dechreuodd ei gyrfa glinigol fel Therapydd Iaith a Lleferydd.

Mae gan Lauren brofiad clinigol cyfoethog mewn gwasanaethau pediatreg, oedolion, iechyd meddwl ac anableddau dysgu, mae wedi gweithio yn y gymuned, mewn lleoliadau acíwt ac mewn gwasanaethau paediatrig arbenigol rhanbarthol gan gynnwys gwasanaeth niwrogyhyrol yn Ysbyty Plant Alder Hey, a'r sector preifat.

Ymhlith rolau blaenorol Lauren mae Prif Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn ymddiriedolaeth gymunedol ac iechyd meddwl integredig yn Lloegr, yn ogystal â Dirprwy Gyfarwyddwr Ansawdd a Dirprwy Gyfarwyddwr Ymgysylltu, lle roedd yn gyfrifol am weithio gyda phartneriaid i ymgysylltu â chymunedau er mwyn deall rhwystrau rhag defnyddio gwasanaethau.  Yn ogystal â hynny, mae Lauren wedi cadeirio’r grŵp cenedlaethol a ddatblygodd y safonau ar gyfer y brentisiaeth lefel gradd ar gyfer Therapi Lleferydd ac Iaith sy’n cael ei defnyddio yn Lloegr.