Gall rhieni a gofalwyr aros gyda'u plentyn trwy gydol y dydd ac rydym yn annog un rhiant i aros dros nos o 8:00pm.
Gall brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu ymweld rhwng 1:00pm ac 8:00pm (ni chaniateir i bobl dan 16 oed ymweld heb oedolyn yn bresennol).
Cyfyngwch y niferoedd i uchafswm o bedwar ymwelydd ar y tro.
Oherwydd y risg bosibl o heintiad, rydym yn cynghori rhieni neu warcheidwaid sy’n dod â babanod a phlant dan 5 oed i i drafod hyn gyda nyrs ddynodedig y cleifion ymlaen llaw.
Mae Uned Gofal Critigol ym mhob un o'n safleoedd ysbyty acíwt o fewn CTM. Cliciwch y dolenni isod am wybodaeth am y CCU ym mhob safle:
Er mwyn sicrhau diogelwch ein staff a'n cleifion wrth ddarparu'r gofal gorau posibl, gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gadw at y canllawiau canlynol ar gyfer ymweld â'n hadrannau mamolaeth.
Yr Uned Babanod Newydd-anedig, Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728860
Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU), Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 752376
Rydym yn fwy na bodlon i rieni fod yn bresennol 24/7, ac rydym yn gwerthfawrogi eu presenoldeb fel rhan hanfodol o ofal eu babi. Mae chwiorydd a brodyr y babi hefyd yn cael eu croesawu.
Mae teulu estynedig a ffrindiau 16 oed neu'n hŷn wedi'u gwahodd i ymweld rhwng 11:00am a 8:00pm. Er mwyn sicrhau cysur a diogelwch pawb yn ein lle cyfyngedig, rydym yn gofyn yn garedig i chi sicrhau na fydd mwy na thri pherson wrth y gwely ar y tro – mae hyn yn cynnwys o leiaf un rhiant.
Er lles ac iechyd pob un o'n babanod a'n teuluoedd, rydym yn gofyn i ymwelwyr beidio dod os oes annwyd gyda nhw neu salwch arall, ac i bawb ddilyn ein canllawiau golchi dwylo.
Diolch am ein helpu i greu amgylchedd diogel, tawel, a chefnogol.
Y Bwthyn Newydd, Ward Cleifion Mewnol, Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 752003
Uned Gofal Lliniarol Arbenigol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443788
Ward 6, Ward Claf Mewnol, Ysbyty Cwm Cynon 01443 715006
Rydym yn croesawu ymwelwyr ym mhob un o'n tair uned ac rydym yn anelu at fod mor hyblyg â phosibl i gefnogi amser gyda'ch anwylyd.
Mae oriau ymweld yn agored, ac rydym yn gofyn yn garedig i chi fod yn ymwybodol ac yn barchus o anghenion a phreifatrwydd cleifion eraill yn ystod eich ymweliad. Siaradwch ag aelod o dîm ein ward i drafod unrhyw drefniadau neu gymorth penodol y gallech fod eu hangen.