Cydlynydd Ward Geni
Cwm Taf Morgannwg BIP
Cydlynydd Ward Geni
Fy ngyrfa fel Cydlynydd Ward Geni
Rydw i’n gweithio fel uwch fydwraig yn goruchwylio gweithgarwch clinigol ar draws yr uned famolaeth ac yn cefnogi’r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal unigol, diogel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bawb.
Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a sut olwg sydd ar ddiwrnod arferol?
Rwy’n dechrau fy sifft drwy dderbyn trosglwyddiad o’r sifft flaenorol – mae hyn yn cynnwys cyflwyniadau tîm, briffio diogelwch a chrynodeb o bob claf ar y ward geni a meysydd clinigol eraill. Yna bydda i’n dyrannu bydwragedd i bob maes clinigol ac yn sicrhau bod gwiriadau diogelwch yn cael eu cwblhau ar y diwrnodau. Rydw i’n cymryd rhan mewn trosglwyddiadau amlddisgyblaethol a rowndiau ward ar wahanol adegau o'r dydd. Mae gweddill fy niwrnod yn amrywio oherwydd natur newidiol ward geni. Un funud gallwn fod yn cynorthwyo ar enedigaeth babi, y funud nesaf gallwn fod yn helpu i lunio cynllun gofal a'r funud nesaf gallwn fod yn arwain sefyllfa o argyfwng, fel colli mwy o waed yn dilyn genedigaeth neu ddadebru newyddenedigol. Rydw i wrth fy modd yn cefnogi bydwragedd i ddarparu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar y claf a cheisio eirioli dros gleifion, a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Mae gan y rôl hefyd agwedd reoli. Rydw i’n rheolwr llinell ar gyfer nifer o fydwragedd a chynorthwywyr gofal iechyd, gan gwblhau arfarniadau a rheoli eu presenoldeb yn y gwaith.
Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa mewn Bydwreigiaeth?
Rydw i’n mwynhau gweithio mewn rôl ymarferol ac roeddwn wir eisiau treulio fy mywyd yn helpu pobl.
Beth yw eich cefndir addysg a gyrfa a arweiniodd at eich swydd bresennol yn CTM?
Cwblheais Lefel A yn y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth, yna dechreuais ar fy ngradd bydwreigiaeth. Rydw i wedi gweithio fel bydwraig mewn amrywiaeth o leoliadau - ward geni, unedau dan arweiniad bydwragedd, wardiau cyn/ôl-enedigol, brysbennu a'r gymuned.
Rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd datblygu gyrfa. Rydw i wedi ymgymryd â secondiadau fel bydwraig ddigidol arweiniol a bydwraig archwilio a chanllawiau, wedi hwyluso hyfforddiant mewn argyfyngau obstetrig ac wedi cwblhau hyfforddiant pellach mewn archwiliadau babanod newydd-anedig, dadebru babanod newydd-anedig a mentora myfyrwyr. Tra oeddwn yn y gymuned sefydlais
ac arweiniais glinig cyn geni ar gyfer menywod nad oedden nhw’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, gan sicrhau mynediad at gyfieithydd ym mhob apwyntiad cyn geni.
Ym mis Mawrth 2020 dechreuais fy rôl fel cydlynydd ward geni. Ers hynny, rydw i wedi cwblhau gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol. Datblygodd hyn fy ngwybodaeth am ymchwil, gwella ansawdd, rheoli newid ac arweinyddiaeth. Rydw i hefyd wedi cwblhau cwrs Arweinyddiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd / Llywodraeth Cymru.
Yn 2022, roeddwn i’n gweithio gydag AaGIC fel Arweinydd Clinigol Mamolaeth a Newyddenedigol i ddyfeisio Fframwaith Cydlynydd Ward Geni GIG Cymru. Mae hwn bellach yn cael ei ddefnyddio'n genedlaethol i gefnogi datblygiad cydlynwyr wardiau geni ledled Cymru. Ces i gyfle i gyflwyno’r gwaith hwn mewn cynhadledd genedlaethol a chyrhaeddodd y fframwaith y rhestr fer ar gyfer Gwobr GIG Cymru.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n chwilio am swydd mewn Bydwreigiaeth?
Mae bydwreigiaeth yn yrfa wych ac yn agor llawer o lwybrau. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy'n ei ystyried i geisio ennill cymaint o brofiad perthnasol â phosibl.
Beth yw camau nesaf eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol?
Hoffwn weithio tuag at ddod yn Fydwraig Ymgynghorol.