Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Maes B

Gobeithio y cewch chi i gyd amser diogel a phleserus ym Maes B a'r prif ddigwyddiad.

Rydym wedi llunio rhywfaint o gyngor iechyd i'w ddarllen cyn i chi gyrraedd a thra byddwch yn yr ŵyl.

Cofiwch- os oes gennych unrhyw bryderon iechyd neu os oes angen cymorth meddygol arnoch, siaradwch â'r stiwardiaid iechyd ar y safle a fydd yn gallu helpu

Cyn i chi gyrraedd

Cofiwch ddod â'ch holl feddyginiaethau gyda chi — mae hyn yn cynnwys unrhyw mewnanadlyddion, EpiPens, pils atal cenhedlu a gwrth-histaminau. Efallai na fydd fferyllfa leol yn gallu rhoi eich meddyginiaethau arferol i chi yn enwedig os ydyn nhw ar  bresgripsiwn yn unig.

Os oes gennych gyflwr fel diabetes neu epilepsi sy'n golygu y gallech fynd yn sâl yn sydyn yna gwisgwch freichled neu dlws crog MedicAlert a gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau sy'n teithio gyda chi yn gwybod am eich cyflwr. Efallai y bydd gennych ap meddygol defnyddiol hefyd ar eich ffôn — gwnewch yn siŵr bod hyn yn gyfredol ac wedi'i alluogi.

Dilynwch ni: