Mae canllawiau ar gyfer brechiadau gaeaf 2025/26 yn wahanol eleni o ran pryd y gallwch gael eich brechiad ffliw.
Medi ymlaen:
- Dan 65
- Dim cyflwr iechyd sylfaenol a fyddai’n eich gwneud yn gymwys i gael brechiad ffliw pe na baech yn aelod o staff.
Hydref ymlaen:
Mae pob aelod o staff bellach yn gymwys, gan gynnwys:
- 65 oed neu hŷn
- Bod â chyflwr iechyd sylfaenol a fyddai’n eich gwneud yn gymwys i gael brechiad ffliw pe na baech yn aelod o staff.
Galwch heibio i gael eich brechiad ffliw - ewch i'n tudalen fewnrwyd ffliw staff am y manylion llawn.