Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Ymchwil a Datblygu 2025-30

Mae Strategaeth Ymchwil a Datblygu BIPCTM 2025-30 yn amlinellu sut y bydd BIPCTM yn datblygu ac yn cyflawni ei uchelgeisiau ymchwil ymhellach trwy fwy o weithgarwch, gwelededd, seilwaith a diwylliant ymchwil sy'n esblygu. Nod strategol allweddol yw ymgorffori ymchwil fel swyddogaeth graidd y sefydliad, yn unol â pholisïau a strategaethau allweddol y DU, cenedlaethol a BIPCTM. Mae'r amcanion strategol wedi'u gosod ar draws gofal sylfaenol, uwchradd, cymunedol a chymdeithasol ac iechyd y boblogaeth ac maen nhw’n berthnasol i bob arbenigedd a phroffesiwn (clinigol ac an-glinigol).  Mae'r strategaeth hefyd yn dogfennu cynllun gweithredu y gellir mesur cyflawniad strategaeth Ymchwil a Datblygu BIPCTM yn ei erbyn.

Yn dilyn drafftio sawl fersiwn, a ddatblygwyd drwy ymgynghoriad helaeth â Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, partneriaid Sefydliadau Addysg Uwch a'r grwpiau clinigol ac anhlinigol ehangach ar draws y sefydliad, derbyniodd y strategaeth gymeradwyaeth y Bwrdd ar 31 Gorffennaf 2025. 

Dilynwch ni: