il li nh n nh th v h n n nginh mh ti h am ưti ch ygyt àh am oedi neu osgoi beichiogrwydd arall. Mae llawer o feichiogrwydd hek cynllunio yn digwydd yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl genedigaeth, felly mae'n well bod yn barod.
Pa mor fuan y gallaf gael rhyw eto?
Gallwch gael rhyw cyn gynted ag y byddwch chi a'ch partner eisiau gwneud hynny. Efallai y bydd yn cymryd peth amser cyn i chi eisiau cael rhyw ar ôl cael eich babi, neu efallai na fydd yn cymryd unrhyw amser o gwbl. Mae pawb yn wahanol felly peidiwch â theimlo dan bwysau na phoeni nad ydych chi'n normal os nad ydych chi'n teimlo'n barod. Gall helpu i siarad â'ch partner am unrhyw bryderon a allai fod gennych.
Pryd ddylwn i ddechrau defnyddio atal cenhedlu?
Mae angen i chi ddechrau defnyddio dulliau atal cenhedlu o 3 wythnos (21 diwrnod) ar ôl yr enedigaeth os ydych chi'n bwriadu cael rhyw. Peidiwch ag aros ich mislif ddychwelyd neu hyd nes y byddwch yn cael eich gwiriad ôl-enedigol cyn i chi ddefnyddio atal cenhedlu gan y gallech feichiogi eto cyn hynny. Gallwch ddechrau rhai dulliau yn syth ar ôl ecncoledeunl.
Gallwn ddarparu rhai dulliau atal cenhedlu yn yr ysbyty ar ôl genedigaeth - siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg am hyn. Gallwch gael mathau eraill o atal cenhedlu gan eich meddyg teulu neu un o'ch clinigau lechyd Rhywiol Integredig lleol.
Pilsen Progesteron yn unig (y bilsen fach)
Y Bilsen Atal Cenhedlu Cyfunol (Y bilsen)
Diffrwythloni i Fenywod neu Ddynion
Condomau i Ddynion neu Fenywod
Diafframau neu Gapiau
Dulliau brys o atal cenhedlu
Os ydych chi'n cael rhyw heb ddiogelwch ar ôl i'ch babi fod yn 3 wythnos oed, gallwch chi ddefnyddio atal cenhedlu brys.
IUCD (Coil Copr)
Y Bilsen Atal Cenhedlu Brys (Lefonorgestrel)
Asetadau Wlipristal (ellaOne)
Y Coiliau (IUCD / IUS)
Mae yna 2 fath o coil, mae'r ddau yn ddyfeisiau sy'n cael eu mewnosod yn y groth ac sy'n dros 99% effeithiol.
Gallwch fewnosod coiliau yn ystod toriad cesaraidd. Gallwch trafod hyn gyda'ch obstetrydd. Hefyd yn addas ar gyfer menywod sydd wedi cael genedigaeth drwy'r wain.
Mae'r ddau ohonyn nhw'n ddiogel wrth fwydo ar y fron
Yr IUCD (Coil Copr)
Yr IUS (Coil progestin)
Y Mewnblaniad (Nexplanon)
Y Pigiad (Depo-Provera)
Mae mislifau y rhan fwyaf o fenywod yn dod yn ysgafnach dros amser neu'n stopio'n liwyr. Mewn rhai achosion, gall achosi gwaedu anrhagweladwy.
Dull Bwydo ar y Fron
Gallwch ddefnyddio bwydo ar y fron fel dull atal cenhedlu a elwir yn Dull Llaetha Amenorhea (LAM).
Gall hyn fod hyd at 98% yn effeithiol os rydych chin dilyn y wybodaeth isod yn ofalus:
Os nad yw unrhyw un o'r uchod yn berthnasol, mae'r risg o feichiogrwydd yn cynyddu a dylech ddefnyddio dull arall o atal cenhedlu os nad ydych chi eisiau dod yn beichiog.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau atal cenhedlu yng Nghwm Taf
Morgannwg, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Am fwy o wybodaeth, sganiwch y cod QR isod