Byddwch yn cael cynnig sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a sgrinio am syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau rhwng 11 a 14 wythnos.
Weithiau does dim modd gweld eich babi yn glir gan ddefnyddio troswr abdomenol, felly gall y sonograffydd awgrymu eich bod yn cael sgan mewnol. Mae hyn yn cael ei alw’n sgan trawsweiniol, a gall roi darlun mwy manwl. Bydd gofyn i chi wagio'ch pledren cyn y sgan hwn.
Mae troswr bach yn cael ei fewnosod yn eich fagina, yn debyg i gael tampon wedi'i fewnosod. Nid yw sgan uwchsain trawsweiniol fel arfer yn boenus. Bydd y sonograffydd yn egluro am y sgan ac yn gofyn am eich caniatâd i'w wneud. Os nad ydych chi eisiau cael sgan mewnol, dywedwch wrth y sonograffydd.
Efallai y bydd angen apwyntiad arnoch ar gyfer sgan abdomenol arall.