Mae’r sgan hwn yn cael ei gynnig rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd.
Mae sgan anomaledd y ffetws fel arfer yn cymryd tua 20 i 30 munud.
Mae'r sgan yn cael ei wneud i:
Nid yw chwilio am ryw eich babi yn rhan o'r sgan ac nid yw'n 100% gywir.
Os ydych chi eisiau gwybod rhyw'r babi a bod y sonograffydd yn gallu ei weld, bydd yn dweud wrthych chi adeg y sgan. Fydd y sonograffydd ddim yn ysgrifennu hyn i lawr.
Bydd y sonograffydd yn defnyddio rhestr wirio y cytunwyd arni ar gyfer Cymru gyfan i chwilio am rai cyflyrau (fel spina bifida) ac ar strwythurau (fel y galon). Mae'n rhaid i'r sonograffydd ganolbwyntio'n galed iawn yn ystod y sgan, felly gall ymddangos yn dawel yn ystod y sgan ond bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd yn gallu.
Weithiau nid yw'n bosibl gweld popeth ar y rhestr yn ystod eich sgan.
Gall hyn fod oherwydd:
Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn cael apwyntiad arall i ddod yn ôl am un sgan arall i weld a all y sonograffydd gwblhau'r rhestr wirio. Nid yw bob amser yn bosibl i'r sonograffydd gwblhau'r rhestr, hyd yn oed yn yr ail apwyntiad.
Os bydd y sonograffydd yn canfod canfyddiad annisgwyl, bydd yn dweud wrthych amdano a byddwch yn gallu siarad â'r bydwragedd a'r meddyg ysbyty (obstetrydd) yn eich clinig cynenedigol. Gall derbyn newyddion annisgwyl fod yn ofidus. Rydym yn argymell bod eich partner neu un oedolyn yn unig yn dod gyda chi i'r apwyntiad sgan.
Weithiau yn sgan anomaledd y ffetws cyntaf, nid yw’n bosib i'r sonograffydd ddweud yn bendant beth yw'r canfyddiad annisgwyl. Efallai y cewch gynnig sgan arall mewn adran wahanol neu gydag arbenigwr sy'n delio â'r math o gyflwr y credir bod gan eich babi.