Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae'r tîm iechyd meddwl cymunedol i oedolion hŷn yn ymdrechu i ddarparu gofal cyfannol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i unigolion o fewn cyd-destun gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol amlddisgyblaethol, aml-asiantaeth.
Rydyn ni’n darparu asesiad, gofal a thriniaeth gynhwysfawr i unigolion sy’n byw ag anghenion iechyd meddwl cymhleth yn unol â Rhan 2 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Rydyn ni’n hyrwyddo diwylliant gweithio cadarnhaol, gan weithio ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth, gan sicrhau bod eu barn a’u syniadau’n cael eu clywed a’u bod yn gyfartal wrth ddatblygu ystod o fentrau a arweinir gan ddefnyddwyr i gefnogi’r unigolyn a’i ofalwyr. Rydyn ni’n meithrin perthnasoedd gwaith cadarn, agored a chadarnhaol gyda’n holl bartneriaid, yn enwedig ein Hawdurdodau Lleol a gwasanaethau iechyd meddwl eraill a’r trydydd sector, gan sicrhau bod pob partner yn cael ei drin ag urddas a pharch.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall meddygon teulu, partneriaid Awdurdod Lleol a gweithwyr proffesiynol eraill gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol gofal eilaidd i'w hystyried.
Ni ellir gwneud hunan-atgyfeiriadau yn uniongyrchol.
Beth i'w ddisgwyl
Rydym yn darparu gofal a chymorth i unigolion dros 65 oed sydd ag anghenion iechyd meddwl swyddogaethol cymhleth, neu’r rhai o unrhyw oedran sydd â diagnosis o ddementia.
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol a bydd unigolion yn cael mynediad ac asesiad gan seicolegwyr, meddygon, nyrsys iechyd meddwl a therapyddion galwedigaethol yn ôl yr angen.
Unwaith y bydd asesiad cadarn wedi'i gwblhau, bydd gan bob unigolyn gynllun gofal a fydd yn nodi pa ofal a thriniaeth sydd eu hangen a phwy fydd yn gyfrifol am ddarparu gofal. Bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gwblhau gan y cydlynydd gofal penodedig cyn rhyddhau o'r gwasanaeth.
Bydd y gwasanaeth yn parchu hawliau unigolion i reoli eu bywydau eu hunain, eu gofal a'u gallu i wneud dewisiadau mewn modd gwybodus a diogel, tra'n anelu at hyrwyddo gwerthoedd annibyniaeth, dewis a grymuso defnyddwyr gwasanaeth.
Cysylltwch â ni
Tîm y Rhondda Tîm Taf-Elái Tîm Iechyd Meddwl Uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr |
Tîm Cwm Cynon Tîm Merthyr Tudful |