Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Epilepsi o ddydd i ddydd (Byw gydag Epilepsi)

Diogelwch Dŵr – Cael bath/Cawod - Gall cael cawod fod yn fwy diogel na chael bath oherwydd bod y dŵr yn draenio i ffwrdd. Mae hyn yn lleihau'r risg o foddi'n sylweddol. Mae cael bath yn cynnwys risgiau uwch na chawod. Sicrhewch fod oedolyn cyfrifol yn bresennol os yw'ch plentyn neu berson ifanc ag Epilepsi yn cymryd cawod neu bath. Bydd angen i oedolyn cyfrifol ystyried a oes angen iddo aros yn yr ystafell ymolchi, neu aros y tu allan i'r drws. Mae hyn er mwyn iddo allu clywed a yw'r plentyn/person ifanc yn cael ffit ac yn gallu helpu. 

Nofio - Os mae’r plentyn/person ifanc yn nofio, gwnewch yn siŵr bod achubwyr bywyd yn ymwybodol o ffitiau eich plentyn ac unrhyw bryderon iechyd eraill. Sicrhewch fod pob plentyn sydd â hanes o ffitiau yn nofio gyda goruchwyliaeth gan oedolyn cyfrifol sy'n gwybod sut i nofio ac sy'n gallu darparu cymorth brys. Efallai y bydd angen goruchwyliaeth 1-i-1 ar blant sydd â ffitiau aml neu ffitiau sy'n amharu ar ymwybyddiaeth. 

Ffordd - Rydyn ni’n argymell defnyddio croesfannau ffordd dynodedig. Ceisiwch aros ar ochr fewnol palmentydd. 

Dringo - Rydyn ni’n argymell na ddylai plentyn/person ifanc sydd â ffitiau ddringo unrhyw beth uwch na'u taldra eu hunain oni bai ei bod yn gwisgo harnais ac yn cael ei goruchwylio. Mae hyn er mwyn atal anaf yn achos y plentyn/person ifanc yn cael ffit a chwympo. 

Gallwch ymweld â'r gwefannau hyn i gael rhagor o wybodaeth: 

 

Cymorth i Rieni

Mae llinell gymorth Epilepsy Action UK yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan epilepsi, gan gynnwys: 

  • Pobl sy'n byw gydag epilepsi

  • Gofalwyr

  • Teulu a ffrindiau pobl ag epilepsi

  • Gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion gan glicio ar y ddolen hon a fydd yn mynd â chi i dudalen we Epilepsy Action Llinell gymorth Epilepsy Action - Epilepsy Action

 

Cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc  

Mae Epilepsy Action yn darparu gwybodaeth, straeon a fideos yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o Epilepsi. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma - Just for kids - Epilepsy Action 

Mae'r tîm cymorth a chynhwysiant Young Epilepsy yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag epilepsi hyd at 25 oed sydd ag ystod o alluoedd ac anghenion. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma - Cymorth a chynhwysiant | Epilepsi Ifanc

 

Rhagor o wybodaeth 

Cyfeiriwch at y gwefannau sy’n cael eu rhestru isod am gyngor diogelwch ychwanegol i blant a phobl ifanc sy'n cael ymchwiliad neu sydd â diagnosis o Epilepsi. Mae'r gwefannau'n darparu gwybodaeth am fyw gydag epilepsi, diogelwch gan gynnwys diogelwch dŵr, epilepsi a lles, bywyd bob dydd, larymau, monitorau a chefnogaeth.   

  

Dilynwch ni: