Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Tywysoges Cymru

Athroniaeth Gofal yn yr Uned Endosgopi

Rydym yn dîm cyfeillgar a’n nod yw darparu amgylchedd dymunol ac ymlaciol lle mae’r gofal fyddwch chi’n eich gael o’r safon uchaf. Cewch gyfle i drafod eich gofal, gofyn cwestiynau a thrafod unrhyw bryderon sydd gennych.

Byddwn yn ymdrechu i roi esboniadau llawn i chi a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol eich arhosiad gyda ni.

Rydym yn cydnabod eich anghenion unigol, yn parchu eich hawl i breifatrwydd ac urddas ac yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal eich hun. Bydd eich triniaeth yn cael ei chynllunio a'i dilyn mewn modd proffesiynol gan staff gwybodus a chymwys, gan sicrhau eich bod yn gysurus ac yn ddiogel bob amser.

 

Gweledigaeth yr Uned

Staff effeithlon, cyfeillgar

Uned groesawgar a thaclus

Urddas a pharch i bawb

Arolwg rhagorol o foddhad cleifion

Cleifion diogelach, cleifion hapusach

Naws tawel a chysurus

Trefn yn hollbwysig

Rhoi llais i’r cleifion

Chi, ein cleifion, sydd bwysicaf

 

Dilynwch ni: