Neidio i'r prif gynnwy

Asesiadau golwg gwan

Mae asesiad golwg gwan ar gael i bobl gymwys sydd â nam ar eu golwg, neu sy'n methu gweld cystal â'r rhan fwyaf o bobl hyd yn oed wrth wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i wneud y defnydd gorau o'r golwg sydd gennych.

Pan fydd claf yn ymuno â'r gwasanaeth am y tro cyntaf, byddant yn cael archwiliad cychwynnol ac mae ganddynt hawl i archwiliad dilynol bob blwyddyn. Gellir benthyg rhai cymhorthion golwg gwan, fel chwyddwydrau a lampau, gan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru ar gyfer Golwg Gwan a'u talu gan Lywodraeth Cymru, felly ni fyddant yn costio ceiniog i chi.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Gwasanaethau Golwg Gwan, cysylltwch â'ch optometrydd lleol a fydd yn gallu darparu'r gwasanaeth i chi neu eich cyfeirio at optometrydd lleol arall sy’n medru.

Dilynwch ni: