Neidio i'r prif gynnwy

Gyfarfod: Ysbyty Maesteg & Canolfan Iechyd a Lles Cwm Llynfi (10 Mawrth 2026)

 

 Cofnod o Gyfarfod | Ysbyty Maesteg / Canolfan Iechyd a Lles Cwm Llynfi

10 Mawrth 2026

Presenoldeb

  • Cynrychiolwyr Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM):
    • Jonathan Morgan, Cadeirydd
    • Paul Mears, Prif Weithredwr 
    • Claire Thompson, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid
    • Dale Stolzenberg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trawsnewid
  • Cynrychiolwyr Etholedig Lleol:
    • Y Cynghorydd Paul Davies
    • Y Cynghorydd Malcolm James
    • Y Cynghorydd Martin Hughes
  • Cynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
    • Y Cynghorydd Jon Spanswick, Arweinydd
    • Y Cynghorydd Jane Gebbie, Is-Lywydd / Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles
    • Y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai
    • Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

  • Ymddiheuriadau wedi'u Derbyn
    • Huw Irranca-Davies MS
    • Y Cynghorydd Chris Davies
    • Y Cynghorydd Philip Jenkins
    • Y Cynghorydd Ross Thomas (hefyd yn gwasanaethu fel Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Maesteg)
    • Y Cynghorydd Richard Collins

 

 Yr hyn a drafodwyd 

 Amlinellodd BIP CTM y sefyllfa bresennol ynghylch darparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghwm Llynfi, Ysbyty Cymunedol Maesteg a datblygiad canolfan iechyd a lles. 

Nododd BIP CTM fod papur briffio am ddarpariaeth gwelyau cymunedol, darpariaeth cartrefi gofal a gwasanaethau Ysbyty yn y Cartref yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i'w rhannu, ynghyd â'r cofnodion cyfarfod hyn. 

Mae Partneriaid y Gadwyn Gyflenwi ar hyn o bryd yn cynnal gweithgareddau dylunio nad ydynt yn benodol i safle, gan gynnwys datblygu ymhellach syniadau ar gyfer y mannau ar gyfer gwasanaethau iechyd ac awdurdod lleol, yn ogystal â gweithgareddau arolygu safle parhaus yn y safle amgen ar Heol Ewenni, Maesteg. Nid yw'r gweithgaredd parhaus hwn yn golygu bod unrhyw benderfyniad ar leoliad canolfan iechyd a lles yng Nghwm Llynfi wedi ei wneud, ond bydd yn golygu y gallwn fod yn fwy hyderus am y wybodaeth sydd ar gael cyn cymryd penderfyniad. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud tan ar ôl etholiad y Senedd ym Mai 2026. 

Bydd BIP CTM yn sicrhau bod gwybodaeth yr astudiaeth dichonolrwtdd ar gyfer y dewisiadau dan ystyriaeth, gan gynnwys Ysbyty Maesteg a'r safle amgen ar Heol Ewenni, ar gael i'r cyhoedd cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud. 

Nododd BIP CTM y bydd Llais (corff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod barn a phrofiadau unigolion yn cael eu hystyried yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a lles) yn cynnal ei ddigwyddiad adborth ei hun ar gyfer pobl leol yn Neuadd y Dref Maesteg ar 26 Mawrth 2026. Bydd y digwyddiad yn ystyried dyfodol gwasanaethau iechyd a lles yng Nghwm Llynfi. 

Bydd Llais yn darparu adborth i BIP CTM, a bydd yr adborth hwn yn sail ar gyfer ymgysylltiad pellach gyda'r gymuned. Bydd y cyfnod cyn yr etholiadau yn dechrau ar 8 Ebrill 2026 ac felly ni fydd unrhyw ymgysylltiad yn digwydd o hynny ymlaen tan ar ôl etholiad y Senedd, sy'n digwydd ar 7 Mai 2026. 

Materion a Godwyd gan Gynrychiolwyr Lleol

  • Cododd y cynghorwyr y newidiadau / y ddarpariaeth o wasanaethau ehangach yn BIP CTM o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a chadarnhaodd CBSP a BIP CTM eu hymrwymiad i weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, hygyrch i bobl leol. 
  • Holodd y cynghorwyr a allai staff BIP CTM fynychu'r digwyddiad gan Llais ar 26 Mawrth 2026. Cadarnhaodd BIP CTM fod modd i staff fynychu os ydynt yn dymuno. 
  • Holodd y cynghorwyr am fformat digwyddiad Llais, a chytunodd BIP CTM i ofyn i Llais egluro hynny yn gyhoeddus. 

 

Camau Nesaf

  1. BIP CTM i rannu'r canlynol gyda Chynghorwyr ac ar wefan Dyfodol Iach Maesteg er tryloywder llwyr:

    • Cofnodion Cyfarfod o 10 Mawrth 2026 

    • Papur briffio am ddarpariaeth gwelyau cymunedol, darpariaeth cartrefi gofal a gwasanaethau Ysbyty yn y Cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

  2. BIP CTM i ofyn i Llais gadarnhau'n gyhoeddus y fformat ar gyfer ei ddigwyddiad adborth cymunedol Ddydd Iau 26 Mawrth 2026 
Dilynwch ni: