Neidio i'r prif gynnwy

UNED PLANT Y DÔL YN YSBYTY BRENHINOL MORGANNWG

Er mwyn gwneud eich arhosiad mor gyfforddus â phosibl, mae'r dudalen we hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gyffredinol i chi am y ward.

DERBYNIAD I'R UNED BAEDIATRIG

Wrth i’ch plentyn gael ei dderbyn i'r ward bydd y nyrs yn asesu eich plentyn drwy ofyn manylion penodol am y salwch ac yn cynnal arsylwadau fel curiad y galon, tymheredd, cyfradd anadlu, dirlawnder ocsigen a phwysedd gwaed. Bydd y Nyrs yn gofyn am fanylion eich teulu fel cyfeiriad, ysgol, cofnod o hanes meddygol, ac ati.

Yn dilyn yr asesiad hwn, bydd y Meddyg / Ymarferydd Nyrsio Paediatrig Uwch yn asesu eich plentyn ac yn gwneud cynllun gofal/triniaeth.

Yn dilyn asesiad meddygol, os bydd yn rhaid i'ch plentyn aros i mewn am fwy nag ychydig oriau mae'n bosibl y caiff ei dderbyn i ward 17- Y Dyrchfa.

Mae Uned Plant y Dôl yn gweithredu dull ‘nyrs benodedig’ ar gyfer darparu gofal nyrsio, lle mae nyrs gofrestredig fesul shifft yn gyfrifol am ofal eich plentyn. Bydd y nyrs yn cyflwyno ei hun ar ddechrau ei sifft.

Os oes unrhyw feddyginiaeth gyda chi naill ai ar gyfer eich plentyn neu at eich defnydd personol eich hun, rhowch ef i'r nyrs a gall ei gloi yn troli storfa’r ward am resymau diogelwch.

Meddyginiaeth y Rhiant/Gofalwr ei hun - Gofynnwch am eich meddyginiaethau gan eich nyrs benodedig pan fo angen i chi ddefnyddio eich meddyginiaeth eich hun a dychwelwch at y nyrs i'w storio'n ddiogel.

Mae pob plentyn/babi yn gwisgo breichled adnabod. Os oes unrhyw broblemau neu os bydd y freichled adnabod yn dod i ffwrdd/yn cael ei difrodi, rhowch wybod i aelod o staff ar unwaith.

Peidiwch â chymryd eich plentyn oddi ar y ward oni bai eich bod chi wedi trafod hyn gyda’r nyrs.

Wrth fynd i mewn neu allan o'r ward, sicrhewch fod y drws diogelwch yn cau'n ddiogel y tu ôl i chi er mwyn sicrhau diogelwch y plant.

Rydyn ni’n cloi prif ddrysau’r ward am 10pm. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech fynd allan o'r adeilad ar ôl 10pm. Os oes angen gwneud hynny, rhowch wybod i aelod o staff eich bod chi’n gadael y ward.

Dilynwch ni: