Neidio i'r prif gynnwy

TAFLEN WYBODAETH AM Y GWASANAETH

Rydych chi wedi cael eich cyfeirio at Ganolfan Awen. 

Mae Awen yn wasanaeth GIG yn y gymuned sy'n cefnogi unigolion i fyw'n dda gydag  anawsterau niwrolegol. Mae anawsterau niwrolegol yn gallu effeithio ar ein gweithgareddau  dyddiol, ac ar sut rydyn ni’n teimlo ac yn gallu bwrw ein hyder wrth ddychwelyd i weithgareddau  cymdeithasol, hamdden, addysgol a galwedigaethol. Mae Awen yn gweithio ochr yn ochr â chi i  gyflawni eich nodau i fyw'n dda.


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydych chi wedi cael cynnig apwyntiad brysbennu cychwynnol, a fydd naill ai drwy alwad fideo neu dros y ffôn. Cysylltwch â'r swyddfa os hoffech chi fwrw ymlaen â'r sesiwn hon.

Os nad ydym yn clywed gennych erbyn y dyddiad yn y llythyr, byddwn yn cymryd yn ganiataol  nad oes angen cymorth arnoch mwyach ac yn eich rhyddhau o'r gwasanaeth.

Beth sy'n digwydd yn yr apwyntiad cychwynnol?

Yn ystod yr alwad hon, byddwn yn penderfynu ar y nodau yr hoffech chi eu cyflawni ac yn  datblygu cynllun gyda chi. Gallai hyn fod yn: sesiynau unigol, gweithdy neu eich cyfeirio at  wasanaethau lleol i'ch helpu i gyflawni eich nodau.

Beth sy'n digwydd mewn sesiwn unigol?

Yn eich sesiwn gyntaf, byddwch yn cwrdd â chlinigwr a fydd yn trafod nifer y sesiynau a gynigir  i chi. Byddent hefyd yn cytuno pa mor aml y byddwch yn cyfarfod, gallai hyn fod yn wythnosol,  bob pythefnos neu bob mis. 

Bydd sesiynau therapi un i un yn cael eu cynnal ym Mharc Iechyd Keir Hardie neu Ysbyty Cwm Rhondda. 

Beth sy'n digwydd mewn gweithdy?

Bydd cynnwys y rhain wedi'u hanelu at helpu i reoli anawsterau sy'n effeithio ar eich bywyd bob  dydd. Maen nhw’n grwpiau sy’n cael eu haddysgu, sy’n rhoi gwybodaeth a strategaethau i helpu i leihau effaith yr anawsterau hyn. 

Does dim rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth am eich sefyllfa yn y gweithdy ac ni fydd hwyluswyr y gweithdy yn eich rhoi mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau.

Maent yn cael eu rhedeg yn rhithwir, gan ddefnyddio platfform diogel o'r enw: Attend Anywhere

Beth fydd yn digwydd os na alla i fynychu sesiwn?

Cysylltwch â ni ar 01685 351351 neu anfonwch e-bost at CTM.NeuropsychologyDepartment@Wales.NHS.UK i ganslo cyn gynted â phosibl fel y gallwn aildrefnu eich sesiwn. 

Os byddwch yn cael anhawster mynychu sesiynau’n gyson a bod tair sesiwn wedi’u canslo’n olynol, yna bydd eich clinigydd yn trafod â chi ai dyma’r amser cywir neu’r nodau cywir i chi fod yn canolbwyntio arnyn nhw. 

Os nad dyma’r amser iawn i chi, yna byddwn yn eich rhyddhau o Ganolfan Awen, ond byddwn yn hapus i dderbyn atgyfeiriad newydd yn y dyfodol pe bai eich amgylchiadau’n newid.

Beth sy'n digwydd pan fydda i’n cyflawni fy nodau?

Byddwch yn cael eich rhyddhau o Ganolfan Awen yn ôl i ofal eich Meddyg Teulu. 

Os, yn y dyfodol, y byddwch chi’n adnabod nodau ychwanegol yr hoffech chi weithio arnyn nhw, byddwn yn hapus i dderbyn atgyfeiriad newydd

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn fuan

Fersiwn argraffadwy

Dilynwch ni: