Cwm Taf Morgannwg a'r Gymuned - Pecyn Cymorth Ymgyrch Brechu Ffliw: Mae'n Cymryd Pentref
Mae tymor y ffliw wedi dechrau'n gynharach eleni, ac rydym eisoes yn gweld mwy o salwch yn ein cymunedau a mwy o bwysau ar draws ein system iechyd a gofal. Mae brechu yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau effaith y ffliw ar unigolion, teuluoedd a gwasanaethau. Mae hyn yn gwneud ein hymdrechion ar y cyd yn bwysicach nag erioed.
Am y tro cyntaf erioed, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau cymunedol, pobl leol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, a phartneriaid ehangach, i ddatblygu pecyn cymorth brechu sy'n hyrwyddo negeseuon clir a chyson sy'n annog pobl i gael eu brechu rhag y ffliw ar draws ein holl gymunedau.
Chwiliwch am wynebau a lleoliadau cyfarwydd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol lleol yn ystod y gaeaf a helpwch trwy ail-rannu'r negeseuon i atgyfnerthu'r gwahaniaeth gwirioneddol y gall brechu ei wneud i leihau salwch sy'n gysylltiedig â ffliw ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Mae'r pecyn cymorth hwn wedi cael ei gyflwyno gan nifer o bartneriaid Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol y bwrdd iechyd. Hoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a gyfrannodd at ei ddatblygiad.
Os hoffech chi gael copi o'r pecyn cymorth i'w ddefnyddio yn eich sefydliad neu gymuned leol, gallwch ei gyrchu yma (ynghyd â chanllawiau ategol).